Pencadlys Prifysgol Cymru
Mae adroddiad damniol wedi beirniadu Prifysgol Cymru am ddilysu cyrsiau mewn colegau tramor nad oedd o safon digon uchel.

Roedd “gwendidau difrifol” yn y modd yr oedd y Brifysgol wedi mynd ati i gydweithio â cholegau tramor, meddai’r adroddiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Dywedodd yr asiantaeth fod y gwendidau a ganfuwyd “yn ddifrifol a bod angen iddynt dderbyn sylw ar frys”.

Cynhaliwyd yr adroddiad rhwng mis Medi 2010 ac Ionawr 2011, gan edrych ar bartneriaethau Prifysgol Cymru gydag Ysgol Fusnes Turning Point, Singapôr, Accademia Italiana, Bangkok, a Choleg Rhyngwladol Fazley, Kuala Lumpur.

‘Rhy barod i gredu’

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal yn dilyn cwynion a dderbyniwyd gan fyfyrwyr o Ysgol Fusnes Turning Point ym mis Ionawr 2011 a rhaglen gan y BBC am y ddau goleg arall ym mis Tachwedd 2010.

Mae’r adroddiad yn dweud bod gwendidau ym mhrosesau dilysu allanol y Brifysgol, ac roedd yn argymell y dylai ddechrau ar gyfres o adolygiadau ar unwaith o’i holl bartneriaethau cydweithredol.

Doedd y Brifysgol ddim wedi gwneud digon “i’w bodloni ei hun am enw da” y colegau “a’u gallu i gyflawni eu cyfrifoldebau”.

Yn achos Ysgol Fusnes Turning Point, Singapôr roedden nhw wedi bod yn rhy barod “i dderbyn honiadau’r perchnogion newydd heb ymchwiliad” ac “yn ymddangos yn rhy feius a rhy barod i gredu”.

Stop ar ddilysu newydd

Yn sgil cyhoeddi’r adroddiad mae’r Brifysgol wedi cydnabod nad oedd eu prosesau dilysu colegau tramor yn ateb y diben bellach, a’u bod wedi rhoi stop ar unrhyw ddilysu newydd.

Ychwanegodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch eu bod nhw’n gweithio’n agos â’r Brifysgol er mwyn cytuno ar gynllun gweithredu newydd ar gyfer y dyfodol.