Canolfan y BBC
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi “mynegi pryder” am ddyfodol darlledu yng Nghymru mewn cyfarfod â’r Arglwydd Patten, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC.

Dywedodd ei fod wedi codi pryderon am ddyfodol S4C a BBC Cymru, sy’n wynebu toriadau mawr dros y blynyddoedd nesaf.

Ychwanegodd ei fod eisiau i’r BBC fod yn “gwbl agored ynglŷn â maint y toriadau a’r newidiadau y maen nhw yn eu hystyried”.

Mynnodd hefyd y dylai gwleidyddion fod yn rhan o’r penderfyniadau i dorri’n ôl ar wasanaethau’r BBC o ystyried fod ganddyn nhw reolaeth “dros y farchnad deledu, radio ac ar-lein yng Nghymru”.

‘Pryderon mawr’

“Rhaid i ni gynnal cymaint o wasanaethau’r BBC yn y Gymraeg a’r Saesneg ag sy’n bosib,” meddai Carwyn Jones. “Dyw darlledu ddim yn fater datganoledig, ond mae gennym ni bryderon mawr am ddyfodol BBC Cymru a S4C.

“Mae sector darlledu cryf sydd wedi ei ariannu yn dda yn hanfodol er mwyn cynnal economi, bywyd diwylliannol a chymdeithas sifil Cymru.

“Mae gan y newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r modd y mae S4C yn cael ei ariannu, a’r gostyngiadau posib yng nghyllideb y BBC, effeithiau pellgyrhaeddol.

“BBC Cymru yw un o’r sefydliadau mwyaf pwerus o fewn Cymru. Maen nhw’n cyflogi 1,200 o bobol. Mae’n hanfodol fod cynrychiolwyr etholedig Cymru yn chwarae rhan mewn unrhyw newidiadau allai ei newid yn sylfaenol.”

S4C

Dywedodd Carwyn Jones fod S4C yn “chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd diwylliannol Cymru” a’i bod yn hanfodol bod “annibyniaeth olygyddol a gweithredol y sianel yn parhau a bod nawdd yn cael ei sicrhau yn yr hir dymor.

“Rydyn ni hefyd yn credu fod angen adolygiad sylfaenol o S4C er mwyn penderfynu ar natur y gwasanaeth yn y dyfodol,” meddai. “Yn ystod y misoedd diwethaf rydw i wedi mynegi fy mhryderon i Lywodraeth San Steffan sawl gwaith.

“Rydw i’n credu fod y cyfarfod heddiw wedi bod yn gyfle i roi fy marn yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth y BBC.”

Y cefndir

Mae’r BBC wedi cytuno i gymryd drosodd ariannu S4C a gwasanaeth y World Service yn ogystal â rhewi’r drwydded teledu.

Yn sgil hynny mae pob adran o’r BBC yn gobeithio gwneud toriadau o tua 20% i’w gwasanaethau, gan gynnwys BBC Cymru.

Mae hynny wedi arwain at bryder mawr am doriadau i Radio Cymru, a’r posibilrwydd y gallai canolfan darlledu BBC Bangor gau.