Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw am rymoedd cyllid newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad yn y Senedd dywedodd ei fod eisiau i Gymru gael grymoedd benthyca, fel yr Alban, yn ogystal â’r gallu i reoli treth ar dirlenwi, treth stamp a threth teithwyr awyr.

Dywedodd fod Fformiwla Barnet, y system y mae Llywodraeth San Steffan yn ei defnyddio wrth benderfynu faint o arian i’w roi i Gymru, yn “tanariannu” y wlad.

Derbyniodd ei alwad am “becyn trefnus” o fesurau cyllid, gan gynnwys y grym dros drethi ar gwmniau, gefnogaeth o ben arall y siambr.

Bant a’r Barnett

Dywedodd Carwyn Jones fod bellach gytundeb yn y Senedd nad oedd y system sy’n ariannu Cymru yn gweithio.

“Does dim sail resymegol i Fformiwla Barnett. Damwain hanesyddol yw hi a does neb bron a bod yn barod i’w hamddiffyn bellach,” meddai.

“Os nad ydi’r system yn cael ei ddiwygio rydyn ni’n debygol iawn o weld y tanariannu yn parhau ac, dros amser, fe allai fynd yn waeth. Heb newid rydyn ni’n wynebu argyfwng cynyddol wrth geisio ariannu gwasanaethau datganoledig yng Nghymru.

“Mae’r fath ganlyniad yn gwbl annerbyniol. Felly ein blaenoriaeth ni wrth fwrw ymlaen yw sicrhau nawdd teg i Gymru.

“Rydw i’n galw am ddatganoli pwerau benthyca effeithiol i Gymru ar yr un cyflymder ac sy’n cael ei gynnig i’r Alban. Mae hynny’n golygu newid mawr cyn diwedd cyfnod yr adolygiad gwariant presennol yn 2015, a gan ddechrau o fewn y flwyddyn ariannol yma.”

Treth incwm

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ystyried galw am y gallu i osod treth gorfforaeth ar gwmniau, ond nad oedd eisiau’r grym i osod treth incwm.

“Fe fyddai datganoli treth incwm yn cynrychioli newid mawr yn y berthynas rhwng y llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a’n dinasyddion,” meddai.

“Yn fy marn i fe fyddai angen refferendwm cyn datganoli’r grym i newid treth incwm i Gymru, fel yr oedd yn yr Alban yn 1997.”