Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cefnu ar bolisi’r llywodraeth flaenorol i ddifa moch daear, am y tro.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol, John Griffiths, eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Roedd yn credu y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref. Ychwanegodd eu bod nhw wedi gweld cwymp mewn TB ychol yng Nghymru dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Antoinette Sandbach, fod y llywodraeth wedi “cicio’r mater ymlaen i’r dyfodol” a gofynnodd pam oedden nhw wedi pleidleisio o blaid y difa cwta tri mis yn ôl.

Dywedodd Llyr Hughes Gruffydd fod y gweinidog wedi dangos “diffyg asgwrn cefn”. Ychwanegodd ei fod yn “destun siom” ei fod wedi penderfynu newid cyfeiriad am resymau “tila”.

“Roedd y polisi gwreiddiol wedi ei seilio ar dystiolaeth gadarn,” meddai. “Lle mae’r dystiolaeth sy’n cyfiawnhau newid cyfeiriad? Ai penderfyniad gwleidyddol yw hwn?”

Dywedodd mai “llywodraeth ceiliog y gwynt sy’n cael ei chwythu bob ffordd” oedd Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y cyn-Weinidog Amaeth, Elin Jones, fod y penderfyniad yn “slap yn wyneb ffermwyr Cymru”.

Ymateb

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud eu bod nhw’n flin iawn gyda’r penderfyniad i oedi’r difa moch daear mewn rhannau o Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

“Roedd y polisi blaenorol yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn oedd yn dangos y byddai difa moch daear yn arwain at gwymp mawr mewn TB ychol,” meddai is-Lywydd yr undeb, Brian Walters.

“Mae’r afiechyd yn fwrn ar ffermwyr gwartheg, yn enwedig yng ngogledd Sir Benfro lle y maen nhw wedi dioddef o ganlyniad i gyfyngiadau llym ers dros flwyddyn.

“Serch hynny rydyn ni’n tindroi wrth drafod yr un rhwystr mawr sy’n atal cael gwared â’r afiechyd yma, sef moch daear sy’n cario TB.

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae mwy na 44,000 o wartheg wedi eu difa yng Nghymru oherwydd TB ychol.

“Rydyn ni’n gwybod fod difa moch daear yn gweithio a dyw’r anifeiliaid ddim yn rhywogaeth brin.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Gynghrair yn Erbyn Campau Creulon, Amy Kitcher, fod atal y difa yn “fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin”.

“Nid difa moch daear os ydyn nhw’n cario TB ai peidio yw’r ateb i ddatrys y broblem yma,” meddai Amy Kitcher.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos mai brechu yw’r modd mwyaf effeithiol o reoli TB mewn moch daear. Rydyn ni wrth ein boddau fodd Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac y bydd moch daear Sir Benfro yn saff unwaith eto.”