Ieuan Wyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Carwyn Jones i egluro pa bwerau ynni y mae yn gobeithio eu datganoli i Gymru.

Dywedodd arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, fod angen i’r Prif Weinidog alw am ddatganoli grymoedd dros egni, dŵr ac ystadau’r goron i Gymru.

Ddoe roedd Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd San Steffan yn cytuno i ddatganoli grymoedd dros brosiectau ynni mawr i Gymru.

Roedd wedi crybwyll y mater yng nghyfarfod Cyngor Prydain ag Iwerddon yn Llundain.

Dywedodd bryd hynny ei fod yn “annealladwy” nad oedd y penderfyniad i ganiatáu adeiladu prosiectau ynni mawr yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.

Ond ymatebodd Ieuan Wyn Jones i’r cais heddiw gan ddweud ei fod yn ymddangos yn “wan”. Byddai galw am unrhyw beth llai na’r “pecyn cyflawn” o rymoedd yn y maes yn rhoi’r argraff “nad oes gan Gymru uchelgais”.

“Mae Carwyn Jones wedi gwneud sawl datganiad am ddatganoli ynni ond heb egluro beth yn union y mae yn galw amdano,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Ydi o eisiau datganoli popeth i Gymru, gan gynnwys dŵr ac ystadau’r goron, ynteu dim ond mewn un maes yn unig?”

Dywedodd ei fod yn “ddrwgdybio” mai nod Carwyn Jones oedd “wneud newidiadau bach tra bod San Steffan yn parhau i reoli y rhan fwyaf o’r polisi egni gan gynnwys dŵr ac ystadau’r goron”.

“Fe fyddai Plaid Cymru yn amlwg yn cefnogi datganoli ynni yn ei gyfanrwydd,” meddai, gan ychwanegu y byddai unrhyw beth llai yn “ddibwrpas”.