Jonathan Edwards
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Plaid Cymru o golli cysylltiad â  beth sy’n mynd ymlaen ym Mae Caerdydd ar ôl ffrae dros E.coli.

Roedd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio a chymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â digolledu ffermwyr llysiau o Gymru.

Roedden nhw wedi gweld colledion yn dilyn darganfyddiad E.coli ar fferm yn yr Almaen.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gosod tua £187 miliwn o’r neilltu er mwyn digolledu y diwydiant amaethyddol ar draws Ewrop.

Mae swyddogion o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi bod yn cyd-lynu’r gwaith yn Lloegr a’r gwledydd datganoledig.

Roedd Jonathan Edwards wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio a chymryd rhan yn y trafodaethau, a dywedodd fod amheuon ynglŷn â ymrwymiad y blaid i’r diwydiant ffermio yng Nghymru.

Ond tarodd Alun Davies, y dirprwy weinidog amaeth, yn ôl gan ddweud nad oedd Plaid Cymru yn deall beth oedd yn mynd ymlaen o fewn y llywodraeth.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan blaenllaw yn y trafodaethau yma o’r dechrau,” meddai.

“Mae fy swyddogion yn gweithio yn agos â Defra ac adrannau eraill er mwyn sicrhau bod budd ffermwyr o Gymru sy’n tyfu llysiau yn cael eu hystyried yn llawn.

“Mae sylwadau di-sail fel hyn yn dangos nad ydi Plaid Cymru ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ers iddyn nhw adael y llywodraeth.”

‘Chwerthinllyd’

Roedd Jonathan Edwards wedi honni nad oedd Defra “yn fodlon dweud” eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru “ynglŷn ag unrhyw ddiogolledion”.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd yw hi ar ffermwyr, ond doedd Llafur ddim hyd yn oed yn rhan o’r trafodaethau er mwyn sicrhau fod ffermwyr Cymru yn cael eu digolledu ar ôl yr achosion E.coli,” meddai.

Ond dywedodd Alun Davies fod yr honiad yn un chwerthinllyd, gan ddweud y byddai ym Mrwsel yr wythnos hon “yn sefyll cornel ffermwyr Cymru” tra fod Plaid Cymru “yn aros gartref yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg”.

E.coli

Mae 35 o bobol wedi marw ers dechrau’r achosion E.coli ac mae tua 100 o gleifion eraill wedi dioddef niwed difrifol i’w harennau.

Lledodd yr haint wedi o egin ffa ar fferm organig yng ngogledd yr Almaen.

Roedd yr Almaen wedi beio ciwcymbrau o Sbaen i ddechrau, ac roedd yr honiad wedi gwneud niwed i’r diwydiant llysiau yn y wlad honno.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig £187 miliwn i ffermwyr Ewrop sydd wedi gweld cwymp mawr mewn allforion ers dechrau’r helynt ym mis Mai.