Mochyn Daear
Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Blaid Lafur i beidio â chefnu ar gynlluniau y llywodraeth flaenorol i ddifa moch daear.

Fe fydd datganiad ar y mater gan Lywodraeth y Cynulliad yn y Siambr yfory ac mae Plaid Cymru yn pryderu fod y Blaid Lafur wedi penderfynu cefnu ar gynlluniau’r llywodraeth glymblaid.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Huws Gruffydd, na ddylen nhw ildio i’r pwysau gan ymgyrchwyr i beidio â difa’r moch daear.

Maen nhw’n bwriadu difa’r moch daear mewn rhannau o Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin er mwyn gweld a yw’n fodd effeithiol o atal TB ychol rhag lledu.

Pwrs cyhoeddus

“Mae gan TB ychol effaith ofnadwy ar ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol yn ei gyfanrwydd,” meddai Llyr Huws Gruffydd.

“Ond mae hefyd angen cofio am yr effaith andwyol ar y pwrs cyhoeddus. Dylai cost anferth TB ychol fod yn bryder anferth i unrhyw un sydd yn talu trethi – os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn ffermio ai peidio.

“Mae’n biti fod pethau wedi mynd cyn waethed ag y maen nhw heddiw oherwydd nad oedd pobol wedi gwneud y penderfyniad anodd i herio TB ychol.

“Mae lladd bywyd gwyllt yn bwnc anodd ac rydw i’n edmygu’r modd yr aeth y llywodraeth flaenorol i’r afael â’r broblem.

“Yn wyneb beirniadaeth lem fe wnaethon nhw fwrw ymlaen â’r gwaith a fydd o fudd i ffermwyr am genedlaethau i ddod.

“Y pryder mawr yw y bydd y llywodraeth newydd yn newid y polisi. Rhaid i’r Prif Weinidog lynu at y llwybr sydd wedi ei osod gan y llywodraeth flaenorol.

“Mae ACau o bob plaid wedi gwneud safiad egwyddorol ar y mater yma ac wedi gorfod wynebu beirniadaeth lem.

“Fe fyddai bod yn ddewr nawr o fudd mawr i ffermwyr, da byw, bywyd gwyllt a’r pwrs cyhoeddus.”