Robbie Savage
Mae yna adroddiadau mae Robbie Savage yw’r diweddaraf i arwyddo i ymddangos ar raglen Strictly Come Dancing y BBC.

Byddai cyn bêl-droediwr canol cae Cymru sy’n enwog am ei giamocs ar y cae yn dilyn yn ôl traed canolwr tîm rygbi Cymru, Gavin Henson, ymddangosodd ar y rhaglen y llynedd.

Mae disgwyl y bydd y dyn 36 oed o Wrecsam yn ymddangos ar y sioe ddiwedd y flwyddyn.

Penderfynodd Robbie Savage ymddeol ddiwedd y tymor diwethaf ac mae wedi troi at fyd sylwebu.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad oedd modd cadarnhau eto pwy oedd yr enwogion a fydd yn cymryd rhan ar y rhaglen.