Bydd Carwyn Jones yn gofyn i Lywodreath San Steffan heddiw am ddatganoli’r grym dros brosiectau egni mawr i Gymru.

Fe fydd yn codi’r pwnc yng nghyfarfod Cyngor Prydain ag Iwerddon yn Llundain.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru nad oedd yn dderbyniol nad oedd penderfyniadau yn ymwneud â codi ffermydd gwynt yn cael eu gwneud yng Nghymru.

Daw hyn wedi i Lywodreath Cymru gyhoeddi yr wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu cyfyngu ar niger y datblygiadau ffermydd gwynt.

Mae’r pwnc yn un llosg ar hyn o bryd wedi i ymgyrchwyr wrthwynebu codi melinau gwynt, isbwerdy 29 acr a peilonau yng Ngheredigion a Powys.

Fe fuodd 1,500 yn protestio y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd, ond San Steffan fydd â’r penderfyniad terfynol.

Dywedodd Carwyn Jones fod ei lywodreath yn cael y bai am y ffermydd gwynt er nad eu penderfyniad nhw oedd hi.

Ychwanegodd wrth raglen y Politics Show y “gallai Llywodraeth San Steffan ddweud eu bod nhw’n mynd i anwybyddu polisi cynlluniau Cymru a gorfodi polisi cynllunio Lloegr arnom ni”.

“Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon y grymoedd yma nawr ac fe ddylen ni eu cael nhw,” meddai. “Os ydyn ni am gael y bai fe ddylen ni gael y cyfrifoldeb.”