Mae Llywodraeth Cymru yn lansio prosiect £13m er mwyn lleihau nifer y bobol ifanc 14 i 19 oed sy’n gadael byd addysg heb gymwysterau mewn rhannau o dde Cymru.

Fe fydd yr arian yn cael ei wario ar ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i tua 8,000 o ddisgyblion ysgol.

Bydd disgyblion yn cael cynnig maes llafur amgen, profiad gwaith, cefnogaeth unigol a gweithgaredd hamdden.

Y gobaith yw y bydd yn arwain at ragor o gyfleoedd a swyddi i’r bobol ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Ewropeaidd, Alun Davies, y byddai’r prosiect yn mynd i’r afael â’r rhesymau y mae pobol ifanc yn gadael ysgol heb gymwysterau na sgiliau.

“Rydyn ni eisiau torri’r rhwystrau sy’n atal pobol ifanc rhag gwneud y gorau o’u haddysg,” meddai.

“Bydd rhoi sgiliau a hyder i bobol ifanc yn gwella eu gobeithion nhw o gael gyrfa ac yn arwain at weithlu o well safon.”

Mae’r £13m yn cynnwys £8m gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.