Adeilad S4C
Fe ddylai S4C agor ei drysau i ragor o gynhyrchwyr bach annibynnol a chysylltu’n well gyda chymunedau ar draws Cymru, yn ôl siaradwraig mewn cynhadledd am ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Dyw cyfyngu rhaglenni i nifer bychan o gynhyrchwyr mawr ddim yn rhoi amrywiaeth na syniadau newydd, meddai Elain Price, hanesydd o Brifysgol Abertawe sydd newydd orffen doethuriaeth ar hanes S4C.

“Os bydd hi’n caniatáu clywed lleisiau o fwy o amrywiaeth o gymunedau ar draws Cymru – fel yn y dyddiau cynnar – fe fydd S4C yn fwy tebyg o adlewyrchu gwirionedd y Gymru fodern ac amrywiol sy’n bod heddiw,” meddai ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.

Gyda’r offer newydd sydd ar gael, fe fyddai cynhyrchwyr bach yn gallu creu cynnwys o safon gyda chostau llai na’r cynhyrchwyr mawr, meddai.

Cyfryngau newydd – a gwrando

Yn ei haraith yng nghynhadledd y corff Cyfrwng fory, fe fydd yn awgrymu bod y sefyllfa heddiw’n debyg i’r hyn oedd hi yn y dyddiau pan oedd holl ddarlledu Cymru yn nwylo’r BBC a HTV.

Fe fydd hefyd yn beirniadu S4C am beidio â mynd i’r afael â’r cyfryngau newydd – mae hynny’n hanfodol, meddai, er mwyn cadw’r gynulleidfa sy’n cael ei meithrin ymhlith plant.

Ond yr allwedd i’r cyfan, meddai Elain Price, yw cael sgwrs gyson gyda’r gynulleidfa – ac mae’n dweud bod cyfrifoldeb ar y gynulleidfa hefyd i roi o’r neilltu ei difaterwch at y sianel a bod yn barod i rannu barn yn onest.

Mae’r erthygl lawn i’w gweld yn Saesneg fan hyn.