Map yn dangos yr ardal hedfan
Fe fydd rhan o orllewin a chanolbarth Cymru’n arwain Ewrop o ran datblygu a phrofi awyrennau rhyfel di-beilot.

Fe gyhoeddodd yr Awdurdod Hedfan Sifil eu bod yn clustnodi darn helaeth o dir o Fae Ceredigion hyd Fynyddoedd yr Epynt er mwyn hedfan yr awyrennau sy’n cael eu profi yn Aberporth.

Mae’r mudiad heddwch, CND Cymru, wedi condemnio’r penderfyniad  gan ddweud ei fod yn “gywilydd” ar Gymru.

Fe fydd yr awyrennau’n cael hedfan tros ran fawr o Ddyffryn Teifi, o Aberporth, ac wedyn ran o Fynyddoedd y Cambrian draw at Gymoedd Elan ac at feysydd tanio’r fyddin yn yr Epynt.

‘Cyfle am waith’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn arwain y datblygiadau ac yn noddi’r cais i newid defnydd o’r awyr yn yr ardal, fe fydd yn rhoi’r cyfle i Gymru ddenu rhagor o gwmnïau yn y maes ac i greu gwaith yn lleol.

Ar hyn o bryd, awyren ddi-beilot o’r enw’r Watchkeeper sy’n cael ei phrofi yn Aberporth gan y cwmni arfau Qinetiq. Mae honno’n awyren filwrol sy’n cael ei defnyddio ar gyfer casglu gwybodaeth a dewis targedau.

Mae’n cael ei hadeiladu gan gonsortiwm o ddau fusnes, dan arweiniad cwmni o’r enw Elbit o Israel ac, yn ôl CND Cymru, fe fydd yn cael ei defnyddio mewn llefydd fel Afghanistan.

‘Peiriannau lladd’

“R’yn ni’n siomedig gydag ein Llywodraeth yng Nghymru, ond heb ein synnu,” meddai Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru, Jill Gough. “Fe ddylen nhw fod yn cefnogi busnesau lleol nid yn rhoi arian cyhoeddus i gwmnïau rhyngwladol i gynhyrchu peiriannau lladd.

“Mae’n gywilydd ar ein gwlad. Fe fydd rhago o sefyllfaoedd fel y rhai yn Israel a Phalesteina, yn Libya, Afghanistan a’r gweddill os na fyddwn ni’n rhoi’r gorau i fwydo’r fasnach arfau.”

Dim ond Qinetiq sydd ar ôl ym Maes Awyr Aberporth, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau o bunnoedd yno, er gwaetha’ gwrthwynebiad lleol.

‘Datblygiad cyffrous’

Yn ôl cwmni Qinetiq eu hunain “mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn cadarnhau safle Cymru ar flaen y gwaith o ddatblygu awyrennau dibeilot”.

Yn y gorffennol, mae cefnogwyr y datblygiadau wedi pwysleisio y bydd awyrennau dibeilot yn cael eu datblygu at bwrpasau sifil hefyd, gan gynnwys amaethyddiaeth.