Prifysgol Caerdydd - un o'r rhai sydd am godi'r uchafswm
Dim ond ychydig wythnosau sydd gan brifysgolion Cymru i gyfiawnhau codi rhagor o arian ar fyfyrwyr.

Mae’r Corff Cyllido Addysg Uwch (HEFCW), sy’n rhoi arian i’r sector, wedi egluro pam eu bod nhw wedi gwrthod ceisiadau deg o’r prifysgolon a phedwar coleg addysg bellach.

Roedd yna broblemau cyffredinol gyda’r ceisiadau, meddai’r llefarydd, a chwestiynau i sefydliadau unigol hefyd.

Rhannu barn

Ond mae penderfyniad y Cyngor hefyd wedi rhannu barn, gyda rhai fel Plaid Cymru ac Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi ei safiad a’r rheolau llym sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo’r gweinidog, Leighton Andrews, o roi’r prifysgolion mewn sefyllfa amhosib.

Roedd rhaid i brifysgolion Cymru godi’r uchafswm o £9,000 y flwyddyn neu golli arian o’i gymharu â phrifysgolion yn Lloegr, meddai llefarydd addysg y blaid, Angela Burns.

“Os ydyn ni am i brifysgolion Cymru ddringo’n uwch yn nhabl prifysgolion Prydeinig a thramor, mae angen i ni gael sector addysg uwch sydd wedi ei ariannu’n dda, lle gall ein prifysgolion gystadlu gyda’r gorau,” meddai.

Yr uchafswm

Mae o leia’ bedair prifysgol – Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chasnewydd – wedi hawlio’r ffi ucha’ posib o £9,000 y flwyddyn ond does dim sicrwydd am y lleill.

Roedd HEFCW yn gwrthod datgelu’r ffigurau ond mae’n amlwg eu bod eisiau codi mwy na’r isafswm o £4,000 y flwyddyn.

Dim ond cyrff a oedd yn hawlio mwy na hynny oedd yn gorfod cyflwyno cynlluniau cyllido, a’r rheiny sydd wedi eu gwrthod.

“Mae’r cynlluniau yma’n nodi pa fuddsoddiadau y maen nhw’n bwriadu eu gwneud trwy ddefnyddio’r incwm newydd er mwyn annog cyfleoedd cyfartal a hyrwyddo addysg uwch,” meddai’r llefarydd.

“R’yn ni wedi ysgrifennu at y deg sefydliad addysg uwch a phedwar coleg addysg bellach sydd wedi cyflwyno eu cynlluniau erbyn 31 Mai i ddweud bod eu cynlluniau ar hyn o bryd ddim yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol.”

Dyddiad cau newydd

Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar 11 Gorffennaf ar ôl derbyn cynlluniau diwygiedig.

Mae Golwg360 wedi siarad gyda rhai o’r prifysgolion ond dydyn nhw ddim wedi egluro beth yw eu cynlluniau.