Cynllun cynharach (Hogyn Lleol CCA2.5)
Mae un o Aelodau’r Cynulliad yn dweud bod angen i Gymru gael rheolaeth ar ei dŵr ei hun ar ôl galwad gan Faer Llundain am sianelu dŵr i Lundain.

Ar hyn o bryd, does gan y cyhoedd ddim llawer o reolaeth tros benderfyniadau yn y maes, meddai Llyr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru yn y Gogledd.

“Dŵr yw un o brif asedau Cymru mewn oes pan mae’n adnodd mwy a mwy prin,” meddai. “Os yw Cymru am ddefnyddi ein hadnoddau naturiol er lles, yna mae’n iawn bod rheolaeth drostyn nhw yn dod i Gymru.”

Roedd yn ymateb i awgrym gan Faer Llundain, Boris Johnson, fod eisiau creu system i symud dŵr o ardaloedd fel Cymru a gogledd Lloegr i lawr i dde-ddwyrain Lloegr, lle mae problemau sychder.

Fe fyddai hynny o les i bobol de-ddwyrain Lloegr, meddai Llyr Huws Grufydd, ond  roedd angen i Gymru ystyried sut i elwa o’i hadnoddau naturiol ei hun.