Alan Shearer
Alan Shearer yw’r ffefryn newydd i olynu Dave Jones yn rheolwr Caerdydd.

Mae cyn seren Newcastle a Lloegr yn cynnal trafodaethau â’r Adar Glas ynglŷn â llenwi’r swydd.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y clwb bore yfory.

Yn ôl adroddiadau mae disgwyl i Tommy Craig gael ei benodi i’w gynorthwyo.

Collodd y cyn-reolwr Dave Jones ei swydd â Chaerdydd ar ôl methu a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Dyma fyddai swydd gyntaf Alan Shearer yn rheolwr ers cyfnod byr wrth y llyw yn Newcastle yn 2009.

Rheolwr Watford, Malky Mackay, oedd y ffefryn am gyfnod ond mae’r sïon o’i amgylch wedi tawelu dros y dyddiau diwethaf.