Gavin Henson
Fe fydd Gavin Henson yn ymddangos ar y teledu unwaith eto, gan geisio swyno 25 merch ar addasiad Prydeinig o raglen The Bachelor yr Unol Daleithiau.

Mae canolwr Cymru eisoes wedi ymddangos ar raglen deledu Strictly Come Dancing a chyfres 71 Degrees North.

Bydd rhaid i’r merched ar raglen newydd Channel 5 gystadlu am sylw Gavin Henson, sy’n sengl ers i’w berthynas â’r gantores Charlotte Church ddod i ben y llynedd.

Bydd cyfle i Gavin Henson gyfarfod pob un o’r 25 wyneb yn wyneb cyn dewis ei ffefryn ymysg y merched a fydd yn aros mewn fila yn ne Ewrop.

‘Fflyrtio a ffraeo’

“Bydd y merched yn fflyrtio, ffraeo ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio gwneud argraff ar Gavin,” meddai llefarydd ar ran Channel 5.

Dywedodd Gavin Henson ei fod “wrth ei fodd yn cael y cyfle i ymddangos yn The Bachelor. Rydw i’n teimlo mai dyma’r amser cywir i fi ddod o hyd i’r ferch berffaith”.

“Rydw i’n parhau i ganolbwyntio ar fy rygbi ac yn hyfforddi yn galed ond wrth i’r tymor ddod i ben mae yna gyfle i mi geisio dod o hyd i’r ferch gywir.

“Mae’n gallu bod yn anodd i fi gwrdd â merched ac fe fydd The Bachelor yn rhoi cyfle unigryw i fi ddod i nabod merched o bob cwr o Brydain.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru y bydd Gavin Henson yn dechrau hyfforddi gyda Chymru ar 30 Mehefin, cyn y gemau yn erbyn Lloegr ym mis Awst.

“Mae Gavin wedi cael patrwm hyfforddi penodol i’w ddilyn pan nad yw yn hyfforddi gyda ni,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n cadw at ymrwymiad a oedd wedi ei wneud cyn iddo gael ei ddewis yn y garfan ac mae tîm hyfforddi Cymru yn ymwybodol o hynny.”