Castell Caernarfon
Roedd pier Landerne yng Nghaernarfon ar gau dros y penwythnos ar ôl i gwch £40 miliwn angori yno.

Mae cannoedd o bobl wedi bod draw i gymryd golwg ar y iot 177 troedfedd Fortunate Sun.

Mae’r pier, sydd fel arfer ar agor i bysgotwyr, ar gau o ddydd Gwener ymlaen, ac ni fydd yn ail agor tan yfory yn dilyn gorchymyn gan Gyngor Gwynedd.

Mae hysbysiad ar y pier yn dweud ei fod ar gau am “resymau diogelwch.”

Mae trigolion lleol wedi bod yn ceisio dyfalu pwy yw’r perchennog, gydag adroddiadau mai Mariah Carey neu Mick Jagger sydd berchen y cwch moethus.

Ond mae aelod o griw’r cwch hwylio wedi gwadu’r sïon, a gwrthododd ddatgelu pwy oedd yn berchen y cwch gan ei fod ef a gweddill y criw wedi arwyddo cytundebau preifatrwydd.

Dywedodd un o’r criw fod perchennog meudwyaidd y llong wedi penderfynu dod i gael golwg ar arfordir gorllewinol Prydain.

Bydd y cwch hwylio yn teithio lan i’r Alban nesaf os fydd y tywydd yn caniatáu.

Cafodd y cwch hwylio ei adeiladu yng Ngorllewin Awstralia yn 2003 ac mae ganddo bum caban a jacuzzi.