Fe fydd dyn 73 oed yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig fu’n dioddef o glefyd Alzheimer’s.
Arestiwyd y pensiynwr Keith Rumbold ddydd Iau pan ddaeth yr heddlu o hyd i gorff ei wraig Shirley yn eu cartref ym Mhrestatyn.
Galwodd parafeddygon yr heddlu i fyngalo y pâr priod yn y Meadows, Prestatyn, ar ôl cael eu galw allan i roi triniaeth i Shirley Rumbold, 74.
Fe fydd ei gŵr yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Prestatyn.
“Roedd Shirley wedi dioddef o glefyd Alzheimer’s ers blynyddoedd ac fe fyddai’r teulu yn hoffi cael preifatrwydd ar amser anodd a thrist,” meddai’r teulu.
Deallir fod canlyniad dios-dro yr archwiliad post-mortem yn dangos ei bod hi wedi ei mygu.