Merfyn Jones, cyn is-ganghellor Prifysgol Bangor
Mae’r athletwraig Non Evans a’r hanesydd Merfyn Jones ymhlith y Cymry sydd wedi ymddangos yn rhestr anrhydeddau penblwydd y Frenhines heddiw.

Fe fydd Merfyn Jones, is ganghellor Prifysgol Bangor tan y llynedd, yn derbyn CBE am ei wasanaeth i addysg uwch yng Nghymru.

Fel cydnabyddiaeth o’i llwyddiant ar lefel ryngwladol mewn rygbi, jiwdo, reslo a chodi pwysau, fe fydd Non Evans yn cael MBE am ei gwasanaeth i chwaraeon.

Dyna’r ail anrhydedd i Non Evans, sy’n wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg, yr wythnos yma. Ddechrau’r wythnos, fe glywodd y bydd yn cael ei hurddo i’r Orsedd yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Syr Brucie

Y tu allan i Gymru, y diddanwr Bruce Forsyth yw’r ffigur amlycaf yn rhestr yr anrhydeddau eleni.

O hyn ymlaen  fe fydd cyflwynydd 83 oed Strictly Come Dancing yn cael ei adnabod fel Syr Bruce Forsyth. Mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ers dros 50 mlynedd.

Dywedodd ei fod wedi edrych ymlaen yn fawr at gael dweud ‘fy arglwyddes’ wrth ei wraig.

Ymysg eraill i gael eu hurddo’n farchogion mae’r Athro Robert Edwards a enillodd wobr Nobel am ei waith arloesol ym maes IVF, a llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King.