Gweddillion y garafan ym maes carafannau Sunny Sands, Talybont, ger y Bermo (Martin Rickett/Gwifren PA)
Parhau mae’r ymchwilio i achos tân mewn carafan ar arfordir Meirionnydd yn oriau mân bore ddoe pryd y cafodd tad a mab o ardal y Fflint eu lladd.

Aed â dwy aelod arall o’r teulu – gwraig 50 oed a’i hwyres dwyflwydd oed – i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd. Cafodd y ferch fach ei throsglwyddo’n ddiweddarach i ysbyty Alderhey yn Lerpwl.

Cafodd yr heddlu eu galw i faes carafannau Sunny Sands yn Nhalybont, ger y Bermo, ychydig cyn dau y bore ar ôl i garafan gael ei gweld yn wenfflam yno.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae dyn 58 oed a’i fab 26 oed wedi marw mewn tân carafan. Cafodd ei wraig 50 oed a’i wyres ddwyflwydd eu hachub o’r tân, ac aed â nhw yn hofrennydd yr heddlu i Ysbyty Gwynedd.”

Ychwanegodd fod y ferch fach wedi dioddef llosgiadau difrifol tra bod ei nain wedi llwyddo i ddianc gyda “llosgiadau arwynebol” i’w phenelin. Roedd y ddwy wedi cael eu hachub gan gyd-garafanwyr cyn i’r gwasanaeth tân gyrraedd.

Ymchwiliad

Mae Heddlu’r Gogledd a’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar y cyd yn cynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad.

“Mae’n ymddangos ar hyn o bryd i’r tân gychwyn yn ddamweiniol,” meddai llefarydd.

Roedd y teulu’n ymwelwyr rheolaidd â’r maes carafannau glan-môr sydd wedi cael ei redeg gan yr un teulu ers dros 45 mlynedd.

Mae’n cynnwys pwll nofio o dan do, clwb yfed a lle chwarae i blant ac mae’n boblogaidd gyda theuluoedd sy’n cael eu denu gan draethau tywodlyd yr ardal hon o arfordir Meirionnydd.

Cydymdeimlad

Dywedodd Jeremy Mead, cyfarwyddwr y safle, eu bod nhw’n gweithio gyda’r heddlu i ddarganfod sut y dechreuodd y tân.

“Hoffem fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu,” meddai. “Mae’n arbennig o boenus iawn i ni oherwydd roedden nhw’n ymwelwyr rheolaidd â’r parc. Mae pobl eisoes wedi bod yn galw i fynegi eu cydymdeimlad.”

Ychwanegodd mai hwn oedd y digwyddiad cyntaf o’i fath yn y parc carafannau ers iddo agor yn 1963.

Dywedodd un a oedd ar wyliau yno, Ian Williams, 31 oed, o Wrecsam, iddo siarad gyda’r teulu yn y clwb y noson cynt.

“Dim ond neithiwr y cyrhaeddon nhw yma,” meddai. “Roedden nhw yn y clwb yn canu ac yn dawnsio. Roedd y pedwar ohonyn nhw ar y llwyfan.

“Fe wnaeth fy ngwraig fy neffro fi tua 2.30 ac roedden ni’n meddwl fod rhywun yn ymladd oherwydd yr holl weiddi. Fe edrychais i allan a methu credu pa mor gyflym y llosgodd y garafan. Roedd yn dychryn rhywun yn arw â dweud y gwir.

“Roedden ni i fod i aros yma tan ddydd Llun, ond ryden ni’n mynd adre rwan.”