Tarw limousin tebyg i'r un ger y Fenni
Fe lwyddodd bachgen deg oed i achub ei dad rhag cael ei ladd gan darw anferth.

Ddoe y daeth Andrew Phillips o’r Fenni yn ôl adref ar ôl pythefnos yn yr ysbyty ac fe ddywedodd wrth newyddiadurwyr mai ei fab, Tom, oedd wedi achub ei fywyd.

Roedd y tarw Limousin 2,000 pwys wedi ymosod pan oedd y ddau’n gweithio yn y caeau ar eu fferm ger pentre’ Cross Ash.

Gyrru’r tractor

Gyda’i dad yn gorwedd yn anymwybodol ar y ddaear, fe lwyddodd Tom Phillips i yrru’r tractor yn ara’ bach yn erbyn y tarw a’i wthio’n ôl.

Yn ôl ei rieni, doedd y bachgen erioed wedi gyrru’r tractor o’r blaen, ond roedd wedi gweld ei dad yn gwneud.

Roedd ei fam, Amanda Phillips, wedi dod i helpu’i gŵr ac wedi methu â dod o hyd i byls.

Ond pan ddaeth parafeddygon, fe ddywedson nhw bod Andrew Phillips, 46 oed, yn fyw ac fe gafodd ei gario gan yr RAF i’r ysbyty.

Roedd wedi torri deg asen ac fe fu mewn gofal dwys am gyfnod.

‘Profiad dychrynllyd’

Yn ôl Amanda Phillips, roedd yn brofiad dychrynllyd i’w mab ac roedd wedi cael hunllefau ers hynny.

“Ond fe all fod yn falch iawn ohono’i hun,” meddai wrth asiantaeth newyddion leol. “Fe achubodd fywyd ei dad.”