Purfa Chevron (Colin Bell CCA 2.0)
Fe fydd y cwest i’r ffrwydrad marwol ym mhurfa Chevron ym Mhenfro’n agor yr wythnos nesa’.

Fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys mai ddydd Llun y bydd y Crwner yn Aberdaugleddau’n dechrau ystyried achos marwolaeth y pedwar gweithiwr a gafodd eu lladd yn y digwyddiad tros wythnos yn ôl.

Yn ôl llefarydd, mae plismyn yn parhau i weithio gyda’r Gweithgor iechyd a Diogelwch i geisio  penderfynu beth oedd achos y ffrwydrad mewn tanc yn y ganolfan.

Mae pumed dyn yn parhau i fod yn ddifrifol wael ond yn sefydlog yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad yn gynnar nos Iau, 2 Mehefin.

Mae wedi cymryd mwy o amser nag arfer cyn agor y cwest oherwydd yr anhawster o adnabod y cyrff ar ôl i’r ffrwydrad achosi tân ffyrnig.