Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor wedi datgelu ffordd y gallai y diwydiant dŵr, a’u defnyddwyr, dorri i lawr ar filiau, gan roi hwb i’r amgylchedd yr un pryd.

Maen nhw wedi canfod ffordd o ddefnyddio pwysedd y dŵr o fewn y system storio dŵr i greu ynni adnewyddol.

Y nod yw ei gwneid hi’n bosib i’r diwydiant dŵr storio’r egni ac yna ei werthu ymlaen i’r grid.

Mae’r ymchwilwyr wedi ennill £500,000 mewn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i ymchwilio i dyrbinau pŵer dŵr bach a’u datblygu, y gellir eu cyflwyno o fewn  systemau trin dŵr presennol.

Gall y rhain leihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth gyflenwi dŵr. Bydd hyn yn galluogi i’r diwydiant cyflenwi dŵr leihau ei allyriadau CO2 a lleihau’r costau gweithredu wrth gyflenwi dŵr wedi ei drin.

“Mae’r diwydiant dŵr yn defnyddio ynni’n helaeth. Mae modd i’r project yma helpu i leihau’r effaith amgylcheddol a’r costau sydd ynghlwm â hyn,” meddai Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor.