Ieuan Wyn Jones
Dylan Iorwerth yn ystyried arwyddocâd go iawn y gwyliau yn Ne Ffrainc…

Nid colli’r Agoriad Swyddogol oedd problem fawr Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru. Llawer gwaeth oedd colli dyddiau cynta’r sesiwn newydd.

Roedd hynny wedi pylu min ymosodiad ei blaid ei hun ar Carwyn Jones a Llafur – eu bod nhw’n llaesu dwylo ers yr etholiad a bod Cymru’n cael ei chario gan y llif.

Roedd gan y Prif Weinidog ateb hawdd i’r ymosodiadau yn Siambr y Cynulliad – dyw eich arweinydd chi ddim hyd yn oed yn trafferthu bod yma. Ac mae Carwyn Jones yn effeithiol iawn pan ddaw cyfle fel yna ar blât.

Gyda ffrindiau fel hyn …

Bellach, beth bynnag ydi dymuniadau Ieuan Wyn Jones, mi fydd rhaid i’r Blaid symud yn gynt i gael arweinydd newydd. Fel arall, mi fydd yn darged hawdd iawn yn y dyfodol hefyd.

Un o’r rhai sy’n sôn am sefyll i fod yn Ieuan Heir ydi Dafydd Elis-Thomas. Yn yr un sesiwn, mi wnaeth job  effeithiol iawn o danseilio cwestiynau ei gyd-aelod o Blaid Cymru, Simon Thomas, ynglŷn â phenodi Cwnsel Cyffredinol.

Mae hyn i gyd – a brwydr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr a  gwendid y Democratiaid Rhyddfrydol – yn dangos y gallai hi fod yn gymharol hawdd i Lafur lywodraethu heb fwyafrif clir.

Y Dimocratiaid Rhyddfrydol

Efo dim ond tri aelod ar hyn o bryd, mae plaid Kirsty Williams mewn mwy o strach fyth. Y dyfalu ydi na fydd y ddau aelod colledig – Aled Roberts a John Dixon – yn cael dod yn ôl. Mae mwyafrif llethol yr aelodau Llafur yn erbyn a llawer o ACau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr hefyd.

O ganlyniad, dim ond hi ei hun a Peter Black o Abertawe fydd cnewyllyn y blaid – er bod gan eilydd Aled Roberts, Eleanor Burnham, rywfaint o brofiad, mae wedi ymosod ar ei harweinydd ei hun a galw’i harweinyddiaeth yn “shambls”.

O ystyried faint o ddatganiadau polisi neu areithiau mawr sydd wedi eu gwneud, mae’r cyhuddiad yn erbyn Carwyn Jones o orffwys ar y rhwyfau’n ymddangos yn un digon teg.

Ond dyma’r pwynt: yn wleidyddol does dim rhaid iddo fo wneud affliw o ddim.