Bryn Fôn
Mae rhai o wynebau amlycaf y gogledd wedi dod at ei gilydd yn Nant Gwrtheyrn heddiw mewn cynhadledd i annog plant i siarad Cymraeg.

Bydd y gynhadledd ‘C Ffactor’ yn clywed gan rai o enwogion y Gogledd sut mae’r gallu siarad Cymraeg wedi bod o fantais iddyn nhw yn eu gyrfa – a sut y gallai siarad Cymraeg fod o fantais i blant Gwynedd.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd yn y gynhadledd fydd Bryn Fôn, Elin Fflur, Bethan Gwanas, Luned Aaron, Myrddin ap Dafydd, Morgan Jones a Sali Mali.

Mae pob un wedi cyfrannu at ffilmiau byr fydd yn cael eu dangos ar wal fideo yn ystod y gynhadledd, er mwyn annog athrawon i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg gan blant tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Yn ôl trefnwyr y gynhadledd, Hunaniaith, bydd y digwyddiad yn “torri tir newydd” wrth gyfuno tystiolaeth gan bobol o fyd teledu, cerddoriaeth a busnes, gyda phethau sydd eisoes yn digwydd i hyrwyddo’r iaith ar lawr gwlad.

Bryn yn gwrthod Warner

Un o’r rheiny sy’n rhoi ‘tystiolaeth’ yw Bryn Fôn, sy’n dweud na fyddai wedi “cyrraedd ble rydw i heddiw” oni bai am yr iaith Gymraeg.

“Fe wnes i benderfynu nôl ym 1977 fy mod eisiau bod yn actor a diddanwr,” meddai.

“Do fe ges i gynigion gan bobol fel Warner Bros i ganu yn Saesneg ond fe benderfynais ei bod hi’n bwysicach ac yn fwy naturiol i mi ddilyn fy ngyrfa drwy’r Gymraeg.”

Cydnabod rhwystrau

Yn ogystal ag annog defnydd o’r Gymraeg, bydd y gynhadledd yn rhoi sylw i’r rhwystrau sy’n wynebu plant yng Ngwynedd wrth defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Hunaniaith yn 2009, gwelwyd fod y defnydd o Gymraeg yn “amrywio’n rhyfeddol rhwng sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.”

Yr argymhellion a ddilynodd yr adroddiad oedd bod angen dylanwadu’n bositif ar arferion iaith plant, a bod angen pwysleisio bod siarad Cymraeg yn sgil allweddol.

“Mae’n bwysig gosod sylfaen gadarn a hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ymhlith plant,” meddai trefnwyr y gynhadledd, “ac mae defnyddio Cymraeg ym mhob amgylchiadau, o’r maes chwarae i’r lle gwaith, yn cael ei weld yn rhan pwysig o’i oroesiad.”

Yn ôl Debbie Jones, swyddog hyrwyddo iaith Hunaniaith, mae cael wynebau adnabyddus sydd wedi llwyddo drwy’r iaith Gymraeg yn bwysig er mwyn trosglwyddo’r neges.

“Mae cefnogaeth pobol mor adnabyddus yn hwb mawr i’r prosiect gan y bydd, gobeithio, yn ysbrydoli oedolion yn ogystal â phlant i ystyried pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol,” meddai.

Cyfaddefodd hefyd bod y digwyddiad yn ymateb i’r angen am ffordd newydd o drosglwyddo’r neges ei bod hi yn fanteisiol i siarad Cymraeg.

“Mae angen i ni fel cynllunwyr ac ymarferwyr iaith ailedrych ar ein dull gweithredu er mwyn sicrhau y rhoddir sylfaen gadarn i’r Gymraeg i holl blant a phobl ifanc Gwynedd.”

Y darlledwr Dewi Llwyd fydd yn arwain y digwyddiad heddiw, gydag annerchiad gan yr Aelod Cynulliad lleol, a’r cyn-weinidog treftadaeth, Alun Ffred Jones.