Toiledau'r maes carafanau eleni
Mi  fydd yr Urdd yn ail-ystyried darparu maes carafanau ar gyfer yr ŵyl genedlaethol  yn y dyfodol os nad ydi’r cae o safon dderbyniol.

Dyna ddywed Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar ôl cwynion am y prinder toiledau a’r diffyg cawodydd ar y maes carafanau yn Eisteddfod Abertawe.

“Dy’n ni wedi dysgu, falle, os nad yw e’n berffaith dylen ni ail-ystyried darparu’r adnodd y flwyddyn honno, os nad ydyn ni’n gallu creu maes sydd yn mynd i blesio a chyrraedd disgwyliadau ein carafanwyr ni,” meddai Aled Siôn.

Mae’n cydnabod nad y maes carafanau a gafwyd yn Abertawe oedd dewis cyntaf yr Urdd. “Am wahanol resymau o’n ni’n methu mynd i’r safleoedd hynny oedd gerllaw’r maes, oedd o fewn cerdded i’r maes. Felly yn amlwg roedd rhaid i ni fynd yn bellach. Mae hynny y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Os nad yw tir perchnogion yn caniatáu, wel dyna ni, dyna ddiwedd y stori.”

Wrth gael ei holi a yw’r Urdd wedi torri nôl ar wariant ar y maes carafanau oherwydd yr anhawster i gyrraedd targedau ariannol yn lleol, mae Aled Siôn yn cydnabod bod yr Eisteddfod eleni wedi “torri’r got yn ôl y brethyn”.

“Mae pob agwedd o’r Eisteddfod wedi cael rhyw fath o dorri. Ond dy’n ni ddim wedi torri nôl ar yr elfennau celfyddydol gan mai gŵyl gelfyddydol y’n ni.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 9 Mehefin