Canol tref Wrecsam (llun y cyngor)
Mae Aelod Seneddol a Chynulliad Wrecsam wedi galw ar y cyngor i gefnu ar gynllun i godi tâl ar yrwyr i barcio ynghanol y dref.

Dan y cynlluniau fe fyddai’r cyngor yn codi tâl ar yrwyr i barcio ar ymyl y stryd, yn hytrach nag yn y meysydd parcio yn unig.

Pleidleisiodd cynghorwyr ar y mater ddydd Mawrth, â phump o blaid codi’r tal a phump yn erbyn. Penderfynodd arweinydd newydd y cyngor, Ron Davies, gefnogi codi’r tâl.

Bydd penaethiaid cyngor Wrecsam yn trafod y mater â pherchnogion busnes y dref yn hwyrach ymlaen heddiw.

Bellach mae’r AS Ian Lucas a’r AC Lesley Griffiths wedi codi llais gan wrthwynebu’r cynlluniau, yn sgil pryderon y bydd l lai o gwsmeriaid yn mynychu siopau canol y dref.

Dywedodd Lesley Griffiths na fydd “unrhyw un ar ei ennill o ganlyniad i’r cynllun”.

“Ni fydd y cyngor yn elwa yn y tymor hir, os yw busnesau yn dechrau cau yng nghanol y dref.”

Dywedodd Ian Lucas fod y rheini sydd yn mynd i gael eu heffeithio wedi dweud yn hollol blaen nad ydyn nhw eisiau gweld costau ychwanegol.

“Rhaid gwrando ar farn y masnachwyr. Mae yna sawl etholwr wedi cysylltu â fi a does yr un ohonyn nhw eisiau gweld y newid,” meddai.

“Mae’n anffodus fod y cyngor wedi cael cyfle i droi cefn ar y cynlluniau yma ond heb wneud hynny.”