Cymru? Falle ddim
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwadu honiadau yn y wasg Brydeinig heddiw fod Cymru yn wynebu sychder yr haf hwn.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd y Guardian, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu cymryd camau er mwyn rheoli defnydd dŵr yng Nghymru.

Bydd y rheolau yn effeithio ar ffermwyr a busnesau medden nhw.

Ond mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwadu’r honiadau hyn, gan ddweud mai “camddealltwriaeth” neu “gamddehongliad” gan y wasg sy’n gyfrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd wrth Golwg 360 “nad ydyn ni’n disgwyl cyhoeddi sefyllfa o sychder yng Nghymru yn y dyfodol agos”.

Er i Gymru weld Gwanwyn poethach a sychach na’r arfer mae’r tywydd wedi newid dros y dyddiau diwethaf.

Cyfaddefodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod lefel yr afonydd yng Nghymru wedi bod yn weddol isel ar adegau eleni, “yn ne-ddwyrain Cymru yn arbennig”.

“Ond o ran y cyflenwad dŵr, does dim problem,” meddai. Ychwanegodd fod y glaw diweddar wedi ail lenwi’r cronfeydd dwr.

“Mae’r argaeau tua’r lefel y bydden ni’n eu disgwyl nhw i fod ar hyn o bryd,” meddai.

Doedd Asiantaeth yr Amgylchedd ddim yn rhagweld y byddai angen datgan sefyllfa o sychder o gwbl eleni.

“Er ei bod hi’n anodd dweud yn union, byddai angen 3 mis heb ddim glaw o gwbl yng Nghymru cyn y byddai angen cyhoeddi fod sychder yma,” meddai’r llefarydd.