Swyddfa S4C yng Nghaerdydd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod nhw’n ystyried her gyfreithiol dros S4C yn dilyn eu cyfarfod â rhai o swyddogion Senedd Ewrop heddiw.

Dywedodd y mudiad eu bod nhw wedi cael cadarnhad y byddai torri gwasanaethau teledu Gymraeg yn groes i gyfraith ryngwladol.

Yn ôl y mudiad, cafwyd cadarnhad bod dyletswydd cyfreithiol ar Lywodraeth Prydan i ddarparu sianel deledu Gymraeg, medden nhw.

Fe fuodd y Gymdeithas yn trafod â pennaeth secretariat Siarter Ewrop dros ieithoedd lleiafrifol, Alexey Kozhemyakov, yn Strasbwrg.

Dywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y byddai’r mudiad yn ystyried unrhyw gamau cyfreithiol y gallan nhw eu cymryd yn dilyn y cyfarfod.

“Mae’r hyn ddywedodd y swyddogion yn arwyddocaol iawn i’n hymgyrch dros ddarlledu Cymraeg,” meddai.

“Mae’n glir bod cynlluniau’r Llywodraeth a’r BBC yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae’n anorfod bod safon y gwasanaeth yn mynd i ddioddef gyda’r toriadau enfawr y maen nhw’n cynllunio.

“Felly, fe fyddwn ni’n ystyried unrhyw opsiynau cyfreithiol sydd gyda ni fel bod modd atal y Llywodraeth rhag torri ei hymrwymiadau.”

Fe fuodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, yn cyfarfod â’r Comisiynydd Ewropeaidd dros Ddiwylliant, Androula Vassiliou, ddoe.

Dywedodd Jill Evans ffod Androula Vassiliou wedi dangos diddordeb yn eu hymgyrch yn erbyn toriadau i gyllideb y sianel.