Mae gŵr a gwraig o Gaerdydd wedi dweud eu bod nhw’n difaru cofnodi genedigaeth eu hail blentyn ar Twitter wedi i un o bapurau newydd De Cymru greu stori dudalen flaen o’r cwbl.

Cyhoeddodd y ddau, sydd â bron i 10 mil o ddilynwyr Twitter rhyngddyn nhw, enedigaeth eu merch fach ar y wefan gymdeithasol ddydd Llun.

Rhannodd y ddau eu straeon â thrydarwyr eraill drwy ddefnyddio’r tag ‘#homebirth’ ar ddiwedd pob sylw.

Roedden nhw wedi cofnodi’r dŵr yn torri, yr ambiwlans yn cyrraedd, dringo i’r pwll geni, yn ogystal â manylion yr enedigaeth ei hun.

Ond ers clywed bod y newyddion wedi cyrraedd tudalen flaen y South Wales Echo, dywedodd Martin Carr ei fod yn “difaru nawr”.

Mae llawer o bapurau newydd a rhaglenni newyddion Cymru wedi bod yn ceisio cysylltu â’r cwpwl ers yr enedigaeth, er mwyn rhoi sylw i’r ffenomen sydd wedi denu dilynwyr a sylwadau o bob cwr o’r byd.

Ond “rhowch gorau iddi” oedd ymateb y gŵr 42 oed, a chyn-gitarydd y grŵp The Boo Radleys, wrth weld tudalen flaen y South Wales Echo y bore yma, oedd yn trafod eu trydar yn ystod yr enedigaeth.

Yn ôl Martin Carr, “r’yn ni jyst eisiau symud ymlaen â phethau nawr”.

Mae’r cwpwl wedi gwrthod cynigion gan ITV Wales a’r Wales Online i gynnig sylwadau pellach.

Croeso cynnes i’r byd…

Mae’r trydar wedi cael ymateb cadarnhaol, ar y cyfan, gan rai sy’n dilyn y cwpwl ar Twitter, ac mae’r ddau wedi diolch i’w dilynwyr am eu cefnogaeth a’u diddordeb, ac am eu llongyfarchion ar enedigaeth eu merch fach.

Roedd un trydarwraig yn awgrymu y dylai pawb fynd i edrych ar y 24 awr ddiwethaf o sylwadau ar gyfrif Twitter Martin Carr, “a gweld os allwch chi eu darllen nhw heb ddechrau crio dagrau o lawenydd”.

Doedd pawb ddim mor gytûn, wrth gwrs, wrth i un trydarwr amau a’i Twitter oedd y lle i gyhoeddi newyddion o’r fath, gan brotestio – “Gormod! O! Wybodaeth!”

Ond dywedodd un trydarwr arall ei fod yn “llawn cyffro fod dau o bobol nad ydw i’n eu nabod (heblaw ma un yn gerddorol) sydd ddim yn fy nabod i, yn cael babi ar Twitter. Beth mae’r we wedi ei wneud i fi?”

Mae’r digwyddiad wedi codi cwestiynau pellach ynglŷn â lle sylwadau ar wefannau cymdeithasol a’r ffin aneglur rhwng y personol a’r cyhoeddus.