Mae teulu plentyn wyth oed fu farw ar ôl cael ei daro’n wael mewn parti ‘laser quest’ wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Adam Winfindale o Wrecsam yn y parti ddydd Sul pan ddechreuodd ddioddef o anawsterau anadlu. Cafodd yr heddlu wybod am 1.16pm y diwrnod hwnnw.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i beth achosodd marwolaeth y plentyn o Ysgol Gynradd  Gymunedol Victoria, Wrecsam. Fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

“Roedd yn fachgen poblogaidd, clyfar ac fe fydd ei ffrindiau ysgol a’i athrawon yn gweld ei eisiau,” meddai’r teulu.

“Roedd yn fachgen hapus, bodlon, oedd â gwen arbennig fyddai yn ychwanegu hwyl at unrhyw achlysur.

“Mae’r golled dorcalonnus wedi effeithio ar bawb oedd yn nabod yr hogyn hynod yma.”