San Jose yn Silicon Valley
Mae Prifysgol Cymru wedi agor swyddfa yn San Jose, California, un o ddinasoedd mwyaf dyffryn enwog Silicon Valley.

Dywedodd y brifysgol mai’r nod oedd gwthio cwmnïau Cymru i galon marchnad cyfalaf menter yr Unol Daleithiau.

Mae’r ganolfan yn cynnwys swyddfeydd, cymorth cyfreithiol a gweinyddol, adnoddau cynadledda, a chefnogaeth cysylltiadau cyhoeddus.

“Mae’n bosib y gall sefydlu canolfan entrepreneuraidd Gymreig yn yr ardal wneud yr Unol Daleithiau’n lle llai gelyniaethus neu beryglus i fuddsoddwyr a phobl fusnes o Gymru, gan amrywio a chyffroi economi Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd Prifysgol Cymru, fod y syniad yn un da.

“Bydd yn swyddfa i Gymru, i fusnes Cymru ac i gwmnïau uwch-dechnoleg sydd eisiau presenoldeb yn Silicon Valley,” meddai.

“Ein nod yw cael troedle i Gymru yn yr ardal trwy weithio’n agos gyda’r Irish Innovation Centre i helpu ychydig o gwmnïau i fynd draw yno a gweld sut mae pethau’n gweithio.

“Os fyddwn ni’n llwyddiannus, yna efallai y bydd hi’n bosib atgynhyrchu’r cysyniad i gwmnïau o Gymru.”