Jill Evans
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru wedi dweud fod cyfarfod â’r Comisiynydd Ewropeaidd dros Ddiwylliant wedi bod yn un “adeiladol”.

Roedd Jill Evans ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi cyfarfod y Comisiynydd, Androula Vassiliou, yn Starsbwrg i drafod dyfodol S4C ddoe.

Eu dadl yw bod Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau teledu a radio yn y Gymraeg o dan gytundeb Ewropeaidd.

Dywedodd Jill Evans ffod Androula Vassiliou wedi dangos diddordeb yn eu hymgyrch yn erbyn toriadau i gyllideb y sianel.

“Roed yn gyfarfod adeiladol dros ben,” meddai Jill Evans. “Cyflwynwyd achos cryf iawn i’r Comisiynydd Vassiliou am ddyfodol S4C.

“Fel un o ieithoedd cydnabyddedig yr UE, mae i hyn oblygiadau ymhell y tu hwnt i Gymru. Gwelir S4C fel patrwm i lawer o wledydd eraill, ac y mae’r Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn mynnu darpariaeth deledu a radio yn ieithoedd perthnasol pob gwlad.

“Fel rhywun sydd wedi ymrwymo i hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, rwy’n hyderus fod y Comisiynydd wedi cydnabod maint y bygythiad i S4C.

“Dylai ieithoedd lleiafrifol gael cydraddoldeb gydag ieithoedd Ewropeaidd eraill ym maes darlledu, sy’n golygu cyllid digono a dim ymyrraeth gan wleidyddion.”

Ychwanegodd ei bod hi’n gwrthod talu fy nhrwydded deledu fel protest yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C, ac yn galw am ddatganoli dros ddarlledu yn i’r Cynulliad Cenedlaethol.”