Mae cannodd o filoedd o bobol yng Nghymru – yn enwedig yn y Gogledd – yn wynebu cynnydd mawr ym mhris trydan a nwy.

Fe gyhoeddodd cwmni Scottish Power – y prif ddosbarthwr yng ngogledd Cymru – y bydd pris trydan yn codi 10% a nwy 19% ddechrau mis Awst.

Maen nhw’n rhoi’r bai ar gynnydd ym mhris cyfanwerthu ynni ac ar y gost o gwrdd â rhaglenni cymdeithasol ac amgylcheddol y Llywodraeth.

Y pryder yw y bydd rhagor o gwmnïau’n dilyn eu hesiampl.

Codi £180 y flwyddyn

Mae’n golygu y bydd pris nwy a thrydan i gwsmer cyffredin yn codi 48c y dydd – cyfanswm o bron £180 y flwyddyn.

“Mae prisiau cyfanwerthu am nwy a thrydan wedi codi’n sylweddol ers diwedd y llynedd ac mae ansefydlogrwydd ym marchnadoedd ynni’r byd yn golygu bod prisiau’r dyfodol yn oriog,” meddai Raymond Jack, cyfarwyddwr manwerthu Scottish Power.

Y cwmni o’r Alban yw olynydd hen gwmni Manweb yng ngogledd Cymru.