Nigel Owens
Mae Nigel Owens ymysg yr enwogion fydd yn cael eu hurddo gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Caiff y dyfarnwr a’r sylwebydd o o Fynyddcerrig ei urddo er anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro sy’n cael ei gynnal ar 30 Gorffennaf – 6 Awst.

Dywedod yr Orsedd eu bod nhw’n cydnabod ei waith yn un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, a’i fod wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol wrth ddyfarnu mewn gwledydd di-rif, gan ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle.

Mae’n  ymddangos yn rheolaidd ar bob math o raglenni adloniant ar S4C, ond er gwaethaf ei fywyd prysur mae’n barod iawn i gymryd rhan mewn nosweithiau i godi arian tuag at achosion da, medden nhw.

Y Bardd Cenedlaethol

Ymysg yr enwogion eraill mae Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2011, ac enillydd Medal Aur y Frenhines am farddoniaeth eleni.

Mae’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd, ac erbyn hyn mae’n byw yn Nhalgarreg, Llandysul.

Dywed yr Orsedd ei bod yn cael ei chydnabod yn un o feirdd amlycaf gwledydd Prydain a’i bod yn darllen ei cherddi ac yn darlithio ar hyd a lled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Hi oedd un o gyd-sefydlwyr y Ganolfan Genedlaethol yn Nhŷ Newydd.

Anrhydedd i un o ymgyrchwyr y Parc

Mae yna islais gwleidyddol – ‘g’ fach – i un o’r anrhydeddau wrth i Penri Jones, cyn brifathro Ysgol y Parc ger Y Bala dderbyn urdd derwydd.

Yn ogystal e2 chyfrannu’n helaeth i ddiwylliant ardal Penllyn, mae hefyd wedi bod yn un o’r ymgyrchwyr tros gadw’r ysgol leol yn agored.

Y mis diwetha’, fe benderfynodd Cyngor Sir Gwynedd yn derfynol y byddai’n cau.

Dyma restr llawn yr Orsedd, gyda’r rhesymau tros urddo:

Gogledd Orllewin

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd yn y seremoni fore Gwener 5 Awst ar faes yr Eisteddfod:

O Glynnog y daw Twm Elias. Ar ôl graddio mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor dilynodd gwrs ymchwil yno ac yn Aberystwyth.  Ers 1979 bu’n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd ac mae bellach yn Gadeirydd ei Phanel Enwau a Gweithgor y wefan amgylcheddol. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau.

Gwraig sy’n gweithio’n ddiflino i feithrin diddordeb cyfoes mewn brodwaith yw Joyce Jones Gwaun Ganol, Cricieth. Dros y blynyddoedd, mae brodwaith Joyce Jones wedi cael ei arddangos mewn canolfannau ym mhob rhan o’r wlad a thu hwnt. Yn 2007 fe’i dewisiwyd i gynllunio gwisg newydd i’r Archdderwydd a than ei harolygaeth, rhoddwyd cyfle i hanner cant o aelodau’r Gymdeithas  Brodwaith, frodio rhannau o’r wisg.

Mae cyfraniad gwirfoddol Penri Jones, Parc, Y Bala, i ddiwylliant ardal Penllyn yn amlochrog ac amhrisiadwy. Bu’n bennaeth Ysgol Sarnau, Ysgol y Parc ac Ysgol Bro Tegid cyn ymddeol. Bu’n aelod amlwg o Gwmni Drama’r Parc ac yn gefnogol i bob achos da a sefydliad diwylliannol ei fro. Bu’n ymroddedig i’r Urdd drwy’r blynyddoedd, fel arweinydd cangen ac arweinydd Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Mae’n aelod o Gôr Godre’r Aran ers dros ddeugain mlynedd ac wedi arwain cannoedd o gyngherddau’r côr, yn ogystal â chyfieithu nifer fawr o ganeuon ar eu cyfer.

Brodor o Garrog, Meirionydd yw Peredur Lynch, sydd bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Cyn hynny, bu’n Gynorthwydd Ymchwil ac yna yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ei briod faes ymchwil oedd barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a chyhoeddodd swmp o’i waith yn y maes ar ffurf papurau ac erthyglau. Bu’n gydolygydd y gyfrol Gwyddionadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae’n aelod o nifer o gynghorau a phwyllgorau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd.

Bydd Grace Roberts, Y Felinheli, yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd, fel enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd.  Un arall a fydd yn cael ei dderbyn i’r Orsedd eleni ar sail ei lwyddiant y llynedd yw’r Athro Gareth Roberts, Bangor, a enillodd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg,ac urddir y ddau fore Llun 1 Awst.

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam eleni:

O Fynytho y daw Enid Wyn Baines, a bu’n ymddiddori ym myd llên a diwylliant ers pan yn ferch ifanc, ac enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1962. Cyfrannodd lawer i ddiwylliant ei bro ac i ardal Dyffryn Banw ym Mhowys tra roedd y teulu’n byw yno. Mae’n aelod blaengar o Fwrdd Rheoli Canolfan Dreftadaeth Cae’r Gors ac yn aelod o dîm Glannau Llyfni ar Dalwrn y Beirdd.

Bydd Evie Jones o Lannerch-y-medd yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol ei gymuned leol.  Mae’n awdurdod ar unawdwyr ac unawdau Cymraeg ac yn gasglwr unawdau o fri. Bu’n Impresario Cymanfa Capel Ifan Llannerch-y-medd am chwarter canrif gan ddod â phrif arweinyddion a chantorion Cymru i ddiddanu’i gyd-werinwyr. Yn sgîl hynny, cododd filoedd o bunnoedd at elusennau ac achosion da.

Nyrs a bydwraig yw Iona Jones, sydd hefyd wedi cyfrannu i ddiwylliant ei hardal.. Ym 1989, fe’i penodwyd yn bennaeth Bydwragedd ardal Caernarfon a’r cylch a bu’n aelod o Fwrdd Golygyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Bu hefyd yn gweithio gydag Awdurdod Iechyd Betsi Cadwaladr, er mwyn gwella amgylchiadau cleifion cancr. Mae’n weithgar ar lefel gymunedol fel Llywydd Cymdeithas Undebol y pentref a Llywydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Bontnewydd.

Bydd Catrin Angharad Roberts o Lanbedrgoch hefyd yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd eleni fel enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau, 2009, ac fe’i hurddir fore Llun 1 Awst.

Canolbarth

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd yn y seremoni fore Gwener 5 Awst ar faes yr Eisteddfod:

Daw Hedd Bleddyn o Lanbrynmair.  Gwnaeth gyfraniad arbennig wrth hyrwyddo’r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg tra’n gynghorydd sirol a Chadeirydd Pwyllgor Addysg Powys. Mae’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Bro Ddyfi ac yn enwog am ei limrigau ffraeth. Ar hyn o bryd, ef yw Derwydd Gweinyddol Gorsedd Talaith a Chadair Powys. Gwasanaethodd ei fro dros gyfnod maith gan gefnogi’r ‘pethe’ ymhell ac agos.

Mae eisteddfota a’r ‘Pethe’ ym mêr esgyrn Margaret Daniel, Aberporth, ers ei phlentyndod. Mae’n arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r cylch a Chôr Merched Bro Nest, corau a fu’n llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n hynod o weithgar wrth hyfforddi plant a phobl ifanc ar gyfer cystadlu mewn Eisteddfodau, mae’n feirniad o fri ac yn ffigwr hollol allweddol ym myd cerddoriaeth. Mae’i chyfraniad i gerddoriaeth Cymru yn haeddu anrhydedd yr Orsedd.

O Bontrhydfendigaid y daw Lyn Ebenezer, sy’n awdur a golygydd tua trigain o gyfrolau.   Yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, mae ganddo golofn wythnosol yn Y Cymro a phob yn ail wythnos yn y Cambrian News. Gwnaeth gymwynas fawr â’i fro enedigol yn ddiweddar wrth gyhoeddi cyfrol swpus Rhwng Mynydd a Mawnog, sef llyfr o luniau ar hanes Pontrhydyfendigaid a’r cylch. Mae’n weithgar yn ei fro, yn bregethwr lleyg ac yn ysgrifennydd y clwb pêl droed lleol.

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam eleni:

Un sy’n cyfrannu llawer i ddiwylliant Canolbarth Cymru yw Bryn Davies Llanwnog. Bu’n brifathro Ysgol Gynradd Llanidloes am flynyddoedd lawer, gan feithrin Cymreictod ei ddisgyblion drwy gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant. Bu’n swyddog gyda’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ac yn flaenllaw wrth sicrhau deunyddiau gwerthfawr yn y Gymraeg. Am dros ugain mlynedd bu’n arweinydd Côr Cymysg Llanwnog ac yn un o gyfarwyddwyr Gŵyl Gerdd Gregynog.

Mae Delma Thomas, Caersws, wedi cyfrannu llawer i fywyd diwylliannol Canolbarth Cymru. Mae’n un o hoelion wyth ei chymdeithas, yn trefnu digwyddiadau sy’n cyfoethogi bywyd Cymraeg y Canolbarth. Cyfrannodd lawer i fudiad Yr Urdd, yn sirol a chenedlaethol. Mae’n hynod o weithgar gyda phapur bro Seren Hafren, yn un o gyfarwyddwyr Menter Maldwyn ac yn arwain cynlluniau ar hyn o bryd i sefydlu ‘Diwrnod Ceiriog’ fel dathliad blynyddol.

Bydd Catrin Haf Jones, Llanarth hefyd yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd eleni, fel enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y llynedd.  Fe fydd hi’n cael ei hurddo fore Llun 1 Awst ar faes yr Eisteddfod.

De Orllewin

Bydd Tudur Hallam o Foelgastell, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, hefyd yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd, yn dilyn ei lwyddiant y llynedd, ac fe’i urddir yn y seremoni fore Llun 1 Awst.

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam eleni:

Mae Dai Rees Davies Rhydlewis, Llandysul, yn enw cyfarwydd i garedigion cerdd dafod. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodau lleol a thaleithiol ynghyd â gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Ffostrasol a thîm Ymryson y Beirdd Ceredigion. Maehefyd wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro, trwy’r eisteddfod leol a phapur bro ‘Y Gambo’. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Dwys a Digri, yn 2007.

Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin yw Philip Davies, sydd ers blynyddoedd bellach, wedi ymgartrefu yn Scotch Plains, New Jersey, Yr Unol Daleithiau. Sicrhaodd ef a’i briod Meril, mai Cymraeg fyddai iaith yr aelwyd, gan lwyddo i fagu tri o blant i siarad yr iaith yn rhugl. Mae’n un o hoelion wyth Cymry America ac ef oedd Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn 2006.

Ganwyd a magwyd Falmai Puw Davis ym Mhenfforddlas wrth odre Pumlumon. Dros y blynyddoedd datblygodd ei dawn i lefaru gan ennill mewn eisteddodau bach a mawr. Bu’n athrawes a gorffennodd ei gyrfa fel athrawes bro ym Mhowys. Erbyn hyn, mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ac yn feirniad llefaru rheolaidd. Falmai oedd y ferch gyntaf i lywyddu Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion.

Ganwyd Non Eleri Evans yn Y Fforest ger Pontarddulais ond mae hi bellach yn byw ym Mhentyrch, Caerdydd. Rhagorodd mewn pedwar maes gwahanol – Rygbi, Jiwdo, Wreslo a Chodi Pwysau, gan ennill ar lefel ryngwladol ym mhob un ohonynt. Enillodd 87 o gapiau rygbi dros ei gwlad, gan sgorio 64 o geisiau. Cyhoeddodd hunangofiant, Non yn Erbyn y Ffactore, y llynedd. Bu hefyd yn amlwg ar y cyfryngau Cymraeg.

Brodor o Drefach Felindre yw Vernon Maher ac mae’n adnabyddus fel arlunydd dawnus ac aelod o’r ddeuawd boblogaidd ‘Vernon a Gwynfor’, gan recordio nifer o recordiau llwyddiannus, rhaglenni radio a theledu, ynghyd â channoedd o gyngherddau ar hyd a lled Cymru. Mae’n eisteddfodwr o fri ac yn Gymro i’r carn.

Mae Margaret Rhys, Trefdraeth, Sir Benfro, yn gyfeilydd o fri. Dros y blynyddoedd, bu’n gyfeilydd i gorau Abergwaun, Newyddion Da, Ar Ôl Tri, Bois y Frenni a Pharti’r Triban. Bu hefyd yn gyfeilydd mewn eisteddfodau di-rif, yn organydd capel a chymanfaoedd ac yn gyfeilydd i lu o offerynwyr ac unigolion. Fel arweinydd Côr Aelwyd Crymych, bu’n llwyddiannus ar lefel genedlaethol a theithio gyda’r côr hwn i nifer o wledydd.

Wyneb cyfarwydd i eisteddfodwyr yw Emyr Wyn Thomas Y Tymbl Uchaf, Llanelli. Bu’n gwasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol fel stiward ers deugain mlynedd. Mae’n cynnal a rhedeg dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, yn sylfaenydd papur bro Y Garthen ac yn aelod o Gyngor Bro Gorslas. Bu’n Llywydd Cenedlaethol UCAC ac yn drefnydd de Cymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd ers 2002.

Yn ogystal, bydd Madison Tazu o Synod Inn, enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008, a Catrin Aur o Gastell Newydd Emlyn, enillydd Ysgoloriaeth Towyn Roberts, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd, yn dilyn eu llwyddiant Eisteddfodol, ddydd Llun 1 Awst.

De Ddwyrain

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd mewn seremoni fore Gwener 5 Awst ar faes yr Eisteddfod.

Cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yw Ann Beynon. Llandaf, Caerdydd Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle Penygroes ac wedi hynny ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n adnabyddus yn y sector fusnes yng Nghymru, gan ddal swyddi blaenllaw gyda S4C, Yr Academi Gymreig ac yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Derbyniodd OBE yn 2008 am ei chyfraniad i fusnes yng Nghymru. Bu’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1996 a 2000.

Daw Gillian Clarke yn wreiddiol o Gaerdydd, ac erbyn hyn mae’n byw yn Nhalgarreg, Llandysul. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2011 ac enillydd Medal Aur y Frenhines am farddoniaeth eleni. Mae’n cael ei chydnabod fel un o feirdd amlycaf yr ynysoedd hyn a bu’n darllen ei cherddi ac yn darlithio ar hyd a lled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Hi oedd un o gyd-sefydlwyr y Ganolfan Genedlaethol yn Nhŷ Newydd.

Un o Lansannan yn wreiddiol yw Rhys Dafis. Cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant yr ardaloedd lle bu’n byw, gan gynnwys ardaloedd de-ddwyrain Cymru a Cheredigion. Am flynyddoedd lawer, bu’n cynnal dosbarth ‘Nyddu’r Cynganeddion’ yng Ngwaelod y Garth a roddodd hwb i yrfa creadigol nifer o bobl a ddaeth yn amlwg yn y byd llenyddol. Bu’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Morgannwg ac mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gerddi. Mae’n is-gadeirydd Clwb Mynydda Cymru eleni.

Un sydd wedi arloesi ym myd addysg cyfrwng Cymraeg yw Eirlys Pritchard Jones Llanbedr y Fro, Bro Morgannwg.  Bu’n bennaeth Ysgol Gyfun Cymer Y Rhondda – braint bersonol iddi hi fel merch o Gwm Rhondda.  Cyfrannodd lawer i gyrff addysgiadol cenedlaethol fel Adran Addysg y Llywodraeth, ACAC, Elwa, Estyn a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bu’n hynod weithgar hefyd ym myd chwaraeon a’r ddrama.

Bydd Glenys Roberts o Lantrisant, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, hefyd yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd, yn dilyn ei llwyddiant y llynedd.  Richard Davies, Cwm, Glyn Ebwy, oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2010, ac eleni, fe’i hurddir yn Dderwydd er Anrhydedd am ei waith y llynedd.  Bydd y ddau ohonynt yn cael eu hurddo yn y seremoni ar y Maes ddydd Llun 1 Awst.

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam eleni, ddydd Gwener 5 Awst:

Adnabyddir Neville Evans Treforgan Caerdydd fel un a gyfrannodd lawer i’r byd gwyddonol yng Nghymru. Graddiodd mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe a bu’n ddarlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymru. Bu’n Arolygydd ei Mawrhydi, gan arbenigo mewn Ffiseg a Gwyddoniaeth o 1969 a 1998. Ei brif nod yw hyrwyddo gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgrifennodd lyfrau gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion ynghyd â nifer o ddeunyddiau addysgol eraill.

Ganwyd Non Eleri Evans yn Y Fforest ger Pontarddulais ond mae hi bellach yn byw ym Mhentyrch, Caerdydd. Rhagorodd mewn pedwar maes gwahanol – Rygbi, Jiwdo, Wreslo a Chodi Pwysau, gan ennill ar lefel ryngwladol ym mhob un ohonynt. Enillodd 87 o gapiau rygbi dros ei gwlad, gan sgorio 64 o geisiau. Cyhoeddodd hunangofiant, Non yn Erbyn y Ffactore, y llynedd. Bu hefyd yn amlwg ar y cyfryngau Cymraeg.

Mae Frank Olding Y Fenni, Sir Fynwy wedi cyfrannu llawer at ddefnydd a pharhad y Gymraeg mewn amryw feysydd yn ardal hen sir Gwent.  Bu’n weithiwr brwd dros yr Eisteddfod pan ddaeth i’w ardal y llynedd, a’i gymorth a’i gefnogaeth parod yn hwb gwirioneddol i waith y Brifwyl.  Mae’n fardd ac yn feirniad a chyhoeddodd gerddi ac erthyglau yn Barddas, Taliesin a’r Faner. Yn 2010 cyhoeddodd y gyfrol Llên Gwerin Blaenau Gwent.

Bydd Huw Euron (Caerffili), enillydd Gwobr Goffa David Ellis, Dyfed Cynan (Caerdydd), enillydd Gwobr Richard Burton, a Julia Hawkins (Crughywel), enillydd Dysgwr y Flwyddyn y llynedd hefyd yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam.  Bydd y tri’n cael eu hurddo ddydd Llun 1 Awst.

Gogledd Ddwyrain

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd yn y seremoni fore Gwener 5 Awst ar faes yr Eisteddfod.

O Helygain, Sir y Fflint y daw Nic Parry, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i Eisteddfodwyr fel arweinydd llwyfan ers nifer o flynyddoedd.  Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr am bron i ddeng mlynedd at hugain yn Yr Wyddgrug, mae’n farnwr llawn amser ar dalaith gogledd Cymru erbyn hyn ac yn uchel ei barch.  Bydd llawer hefyd yn adnabod ei lais fel sylwebydd cyson ar gemau pêl droed ar Radio Cymru ac S4C, ac mae wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro.

Daw Bilo Davies o Gwm Gors yn wreiddiol ond mae’n byw yn Wrecsam ers blynyddoedd lawer.  Yn beiriannydd sifil wrth ei alwedigaeth, ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Wrecsam 1977, a mawr fu’i gymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd wedi hynny, wrth i’r pwyllgor bwyso’n drwm ar ei arbenigedd. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y Pwyllgor Technegol Cenedlaethol a bu’n ffyddlon i’w gyfarfodydd ar hyd y blynyddoedd nes iddo ymddeol yn ddiweddar.

Un o Lansannan yn wreiddiol yw Rhys Dafis. Cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant yr ardaloedd lle bu’n byw, gan gynnwys ardaloedd de-ddwyrain Cymru a Cheredigion. Am flynyddoedd lawer, bu’n cynnal dosbarth ‘Nyddu’r Cynganeddion’ yng Ngwaelod y Garth a roddodd hwb i yrfa creadigol nifer o bobl a ddaeth yn amlwg yn y byd llenyddol. Bu’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Morgannwg ac mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gerddi. Mae’n is-gadeirydd Clwb Mynydda Cymru eleni.

Fel enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd, bydd Leah Owen, Prion, Dinbych, hefyd yn derbyn Urdd Derwydd ers Anrhydedd yn y Brifwyl eleni, ac fe’i hanrhydeddir hi fore Llun 1 Awst.

Yn ogystal, bydd Rhys Jones o Brestatyn, ‘Rhys’, yn cael ei dderbyn i Urdd Derwydd er Anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i’r Orsedd a’r Eisteddfod.

Bydd y canlynol yn derbyn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Wrecsam eleni:

Brodor o Ddyffryn Ceiriog yw Idris Davies. Bu’n arweinydd eisteddfodau a chyngherddau am flynyddoedd, ac mae’n un o sylfaenwyr Eisteddfod Glyn Ceiriog. Mae’n un o hoelion wyth Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Pows ac ef yw ei Llywydd ar hyn o bryd. Mae’n gynghorydd cymunedol ac yn gadeirydd Pwyllgor Neuadd Goffa Ceiriog.

Daw Arwel Gwynn Jones, sy’n gyn-bennaeth Ysgol Bodhyfryd Wrecsam, o Rosllannerchrugog. Bu’n hynod weithgar gyda’r Mudiad Meithrin dros y blynyddoedd ac mae’n gefnogwr brwd i weithgareddau yn ei gymdeithas leol. Mae’n Gadeirydd Côr Meibion Orffiws y Rhos ac ef oedd Cadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Rhosllannerchrugog yn 2006.

O ardal Coedllai, Sir Fflint y daw Elwyn Roberts.  Bu’n Bennaeth Ysgol Gynradd Bryn Gwalia Yr Wyddgrug ac wedi hynny’n Bennaeth Ysgol Gynradd Glanrafon am ugain mlynedd olaf ei yrfa. Bu’n weithgar drwy’r blynyddoedd gan wasanaethu er budd yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant.

Un a fu’n fawr ei chymwynasau am flynyddoedd lawer i’r Eisteddfod Genedlaethol yw Elizabeth Snowden Yr Wyddgrug. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd, Cist Gymunedol Clwyd, yn drefnydd y tîm sy’n gyfrifol am edrych ar ôl bar coffi Ysbyty Gymunedol Yr Wyddgrug ac yn swyddog cyllid Cyngor Tref Caerwys.  Bu’n gwirfoddoli yn y swyddfa docynnau ar Faes yr Eisteddfod am ddwy flynedd ar hugain.