Gweilch Bro Dyfi
Roedd hi’n fore “emosiynol” heddiw yn ardal Machynlleth – gyda thrydydd wy gweilch y pysgod yn deor ar warchodfa natur Cors Ddyfi.

Dyma’r tro cyntaf ers 400 mlynedd i’r rhywogaeth arbennig hwn nythu yn y dyffryn ac roedd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, sy’n gyfrifol am y warchodfa, wedi bod yn aros ers dwy flynedd i ddau oedolyn fagu ar y gors.

“Ro’n ni wedi rhyw amau ddoe, ond mi roedd yn sioc,” meddai Alwyn Evans, Swyddog gyda Phroject Gwalch y Dyfi. “Rydan ni wedi cael dwy flynedd wag ddigalon.”

Gwalch y pysgod yw adar ysglyfaethus prinnaf Cymru – yr unig le arall y mae’r adar yn bridio yw yn Nyffryn Glaslyn. Iâr ifanc sydd wedi dod i nythu ar Gors Dyfi eleni, o warchodfa yn Rutland.

Daeth cyw cyntaf o’r wy am 1.10pm ddydd Sul, Mehefin 5, a’r ail am 6.30 fore Llun.

“Roedd yr ail wy yn deor yn fwy emosiynol,” meddai Alwyn Evans. “Ro’n i wedi bod yma trwy’r nos fwy neu lai. Ro’n i yma ar fy mhen fy hun a neb i rannu’r profiad efo fo.

“Tua 4.30 y bore, daeth y ceiliog a darn o bysgodyn a landio ar frigyn wrth ymyl y nyth, a’i silhouette yn erbyn yr haul yn codi – roedd hi’n yfflon o deimlad emosiynol. Ro’n i’n beichio crio a neb i rannu’r profiad efo fi!”

Roedd tua 1,000 o bobol wedi ymweld â’r warchodfa ddydd Sul ar ôl i’r wy gyntaf ddeor.

“Pobol sy’n gwylio adar a phobol leol o Aberdyfi, Tywyn, lawr i Rydypennau, o Aberystwyth, i fyny am Lanidloes, Caersŵs…” meddai. “Roedd pobol yn ffonio’i gilydd ac yn rhannu’r peth ar y Gweplyfr.”

“Pryder” oherwydd peryglon

Ond mae yna bryder na fydd y tri chyw yn goroesi.

“Un pâr sydd yna yng Nghymru ers 2004, mae yna ddau rŵan,” meddai Alwyn Evans. “Maen nhw’n bâr sy’n magu am y tro cyntaf.

“Fel arfer, o bâr sy’n magu am y tro cyntaf, yn rheolaidd iawn dim ond dau wy wnân nhw ddodwy, a dim ond un cyw wnaiff oroesi.

“Mae yna dri wy; mae’r siawns o dri yn hedfan oddi yma yn bur isel.”

Un peth calonogol yw bod ‘brawd’ yr iâr o Rutland wedi cael tri chyw ac fe wnaeth y rheiny wedi hedfan.

“Mae gennych chi gymaint o beryglon,” meddai. “Mae’r tywydd mor ofnadwy – mae hi’n oer, mae hi’n wlyb, mae hi’n ddiawchedig o boeth y diwrnod wedyn. Fe allasai rhywbeth darfu ar yr adar. Mae yna waith gan Network Rail ddim yn bell o’r nyth.

“Mae peryglon adar ysglyfaethus, neu wylanod neu grëyr glas i gymryd y cywion yn uchel tan eu bod nhw tua thair wythnos oed.

“Pe tasai rhywbeth yn digwydd i’r ceiliog, mi lwgith yr iâr ac mi farwith y cywion. Mae gennych chi’r pryder yna.”

Mae un o gywion afon Glaslyn o dair blynedd yn ôl wedi bod lawr yn ardal Dyfi ddwywaith eleni, meddai, yn chwilio am safle i nythu.

“Mae hi’n broses araf deg. Dydyn nhw ddim yn bridio cyn gyflymed â’r barcud coch yn gwneud. Mae hi’n mynd i gymryd amser iddyn nhw.”

Gwyliwch y fideo o’r trydydd cyw yn deor ar http://www.montwt.co.uk/