Angelika Dries-Jenkins
Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio Angelika Dries-Jenkins yn Sir Benfro.

Daethpwyd o hyd i gorff Angelika Dries-Jenkins, oedd yn 66, ger ei chartre’ yn ardal Providence Hill, Arberth, ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi arestio dyn 54 oed sy’n byw yn lleol heddiw.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.

Yn gynharach heddiw dywedodd yr heddlu fod archwiliad post-mortem ar y ddynes gafodd ei llofruddio yn ei chartref yn Arberth wedi dangos iddi ddioddef anafiadau “sylweddol” i’w phen.

Dywedodd yr  heddlu ei fod yn bosib ei bod hi wedi marw unrhyw bryd yn ystod yr wythnos diwethaf.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ac maen nhw eisiau rhagor o wybodaeth am ei char Skoda Fabia.

Mae’n gyfuniad o liwiau siampên, aur a llwydfelyn a’r rhif cofrestru yw GP05LNY.

Daethpwyd o hyd i’r car chwech oed yn ardal St Thomas Green yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.