Angelika Dries-Jenkins
Mae archwiliad post-mortem dynes gafodd ei llofruddio yn ei chartref yn Arberth wedi dangos iddi ddioddef anafiadau “sylweddol” i’w phen.

Daethpwyd o hyd i gorff Angelika Dries-Jenkins, oedd yn 66, ger ei chartre’ yn ardal Providence Hill, Arberth, ddydd Gwener.

Ond dywedodd yr heddlu ei fod yn bosib ei bod hi wedi marw unrhyw bryd yn ystod yr wythnos diwethaf.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ac maen nhw eisiau gwybod beth oedd ei char Skoda Fabia yn ei wneud yn Hwlffordd.

“Yn dilyn archwiliad post-mortem gan batholegydd y Swyddfa Gartref, rydyn ni’n gallu cadarnhau fod Angelika wedi dioddef anafiadau difrifol i’w phen,” meddai llefarydd ar ran Heddlu-Dyfed Powys.

“Does yna ddim byd sy’n awgrymu cymhelliad rhywiol. Hoffwn ni ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth hyd yn hyn.

“Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 2010.”

Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gar Angelika Dries-Jenkins, gafodd ei ddwyn o’i chartref.

Mae’n gyfuniad o liwiau siampên, aur a llwydfelyn a’r rhif cofrestru yw GP05LNY.

Daethpwyd o hyd i’r car chwech oed yn ardal St Thomas Green yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Apêl y teulu

Dywedodd ei theulu ei bod hi’n ddynes dawel ond fod ganddi llawer iawn o galon, ysbryd a hwyl.

“Dros y ddwy flynedd diwethaf roedd hi wedi brwydro yn erbyn a goroesi salwch difrifol,” meddai’r teulu mewn datganiad. “Roedd hi eisiau byw.

“Roedd y modd treisgar y bu hi farw yn waeth byth o ystyried y ffordd yr oedd hi wedi byw ei bywyd.”

Galwodd y teulu ar bobol Sir Benfro, ac ardal Arberth yn enwedig i wneud eu gorau glas wrth helpu’r heddlu.

“Ni ddylai’r person laddodd ein mam gael ei amddiffyn ond yn hytrach ei atal rhag gwneud unrhyw beth fel hyn eto,” meddai’r teulu.