Mae gwasanaeth S4C i blant a phobl ifanc, Stwnsh, wedi rhyddhau app newydd ar eu gwefan.

Mae gêm GLWP, a gynlluniwyd gan Cube Interactive ar ran Boomerang+ – y cwmni sy’n cynhyrchu darpariaeth Stwnsh i S4C – ar gael am ddim o iTunes i ddyfeisiau symudol Apple iPhone, iPod Touch ac yn gweithio ar iPad. Mae’r gêm hefyd ar gael i’w defnyddio ar ffonau Android.

Yn y gêm, bydd gan bob chwaraewr liw arbennig a’r gôl fydd llenwi’r sgrin gyda’i lliw cyn y lleill. Mae modd chwarae’r gêm ar wefan Stwnsh hefyd.

Mae Byti – y gêm gyntaf a gynlluniwyd ar ffurf ap Stwnsh – ar gael o hyd. Bydd Stwnsh yn rhyddhau gemau newydd yn achlysurol a bydd modd casglu’r gemau yn archif eich ffôn a’u chwarae dro ar ôl tro, medden nhw.

“Mae S4C yn parhau i arloesi ym myd technoleg newydd i blant a phobl ifanc ac mae’r datblygiad diweddaraf o gynnig gêm aml-chwaraewr yn enghraifft berffaith o hynn,”  meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.

“ Mae’r gêm hefyd yn adlewyrchu ein hymroddiad i gynnig estyniad i wasanaeth teledu ac ar-lein poblogaidd Stwnsh.”

Ap Arall

Mae bellach yn bosib gwylio nifer o raglenni S4C, gan gynnwys Pobol y Cwm, Porthpenwaig, Cyw a Dechrau Canu Dechrau Canmol, ar ffôn symudol drwy lawr lwytho ap arbennig S4C Clic.

Mae ap dwyieithog S4C Clic ar gael am ddim. Ar hyn o bryd, mae’r ap ar gael ar yr iPhone yn unig ond mae’r sianel wrthi’n creu fersiynau o’r ap i’r iPad a’r iPod Touch.