Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff dyn ar lan afon yn Eryri.

Daethpwyd o hyd i’r corff ger yr Afon Llugwy yng Nghapel Curig ar 23 Mai.

Fe fuodd achubwyr mynydd yn chwilio’r ardal ddydd Sadwrn ac mae’n debyg eu bod nhw wedi dod o hyd i fag cefn allan fod yn eiddo i’r dyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru nad oedden nhw’n ystyried marwolaeth y dyn yn un amheus a’u bod nhw wedi rhoi gwybod i’r crwner.