Angelika Dries-Jenkins
Mae teulu dynes o Sir Benfro wedi galw am wybodaeth er mwyn datrys llofruddiaeth eu mam.

Daethpwyd o hyd i gorff Angelika Dries-Jenkins, oedd yn 66, ger ei chartre’ yn ardal Providence Hill, Arberth, ddydd Gwener.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ac maen nhw eisiau gwybod beth oedd ei char Skoda Fabia yn ei wneud yn Hwlffordd.

Dywedodd ei theulu ei bod hi’n ddynes dawel ond fod ganddi llawer iawn o galon, ysbryd a hwyl.

“Dros y ddwy flynedd diwethaf roedd hi wedi brwydro yn erbyn a goroesi salwch difrifol,” meddai’r teulu mewn datganiad. “Roedd hi eisiau byw.

“Roedd y modd treisgar y bu hi farw yn waeth byth o ystyried y ffordd yr oedd hi wedi byw ei bywyd.”

Galwodd y teulu ar bobol Sir Benfro, ac ardal Arberth yn enwedig i wneud eu gorau glas wrth helpu’r heddlu.

“Ni ddylai’r person laddodd ein mam gael ei amddiffyn ond yn hytrach ei atal rhag gwneud unrhyw beth fel hyn eto,” meddai’r teulu.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gar Angelika Dries-Jenkins, gafodd ei ddwyn o’i chartref.

Mae’n gyfuniad o liwiau siampên, aur a llwydfelyn a’r rhif cofrestru yw GP05LNY.

Daethpwyd o hyd i’r car chwech oed yn ardal St Thomas Green yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.