Mae dau gyw Gwalch wedi deor mewn gwarchodfa natur ym Mhowys.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Fynwy, dyma’r tro cyntaf mewn 400 mlynedd mae’r adar wedi bridio ym Mro Ddyfi ger Machynlleth.

Roedd yr ymddiriedolaeth wedi aros dwy flynedd i’r adar fridio ac erbyn y Pasg eleni fe ymddangosodd sawl wy yn eu nyth.

Fe gyhoeddodd yr ymddiriedolaeth y newyddion ar eu gwefan swyddogol.

“Ar ddydd Sul 5 Mehefin am 1.10pm, fe  ddechreuodd y cyw Gwalch cyntaf ei daith i mewn i’r byd,” meddai’r ymddiriedolaeth.

“O fewn dwy awr, roedd y cyw cyntaf wedi daear ac yng nghwmni ei rieni balch Monty a Nora.

“Fe ddaeth yr ail gyw allan o’r wy ac i’r golwg am 6.35am, ddydd Llun 6 Mehefin.”

Mae rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi, Emyr Evans, wedi croesawu’r newyddion hanesyddol.

“Mae’n anhygoel meddwl mai’r tro olaf i gyw Gwalch cael ei eni yma oedd pan oedd Iago I yn olynu Elizabeth I,” meddai Emyr Evans.