Safle Chevron (Colin Bell CCA 2.0)
Mae Aelod Cynulliad De Penfro, Angela Burns, wedi dweud fod y “sïon a dyfalu” ynglŷn ag achos y ddamwain yn safle Chevron y sir wedi ei gwneud yn “anghyffyrddus”.
Galwodd am ymchwiliad “trwyadl” i beth digwyddodd ar y safle ger Aberdaugleddau nos Iau wrth i bedwar person farw yn dilyn ffrwydrad yno.
“Roeddwn i mewn cysylltiad gyda Chevron ar y noson wrth i fanylion y ddamwain ddod i’r amlwg ac yn drist iawn am y colli bywydau yno,” meddai.
“Mae’r drasiedi bersonol i’r pedwar teulu ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda nhw a theulu’r pumed dyn sydd yn sâl iawn yn yr ysbyty.”
Roedd tri o’r gweithwyr yn dod o Aberdaugleddau – sef Dennis Riley, 52 mlwydd oed; Robert Broome, 48, ac Andrew Jenkins a oedd yn 33 oed.
Y pedwerydd oedd y rheolwr tân, Julie Jones o Benfro. Roedd hi’n 54 mlwydd oed.
Mae pumed dyn yn parhau’n ddifrifol wael yn yr ysbyty ond mae ei deulu wedi gofyn i’r heddlu beidio â chyhoeddi ei enw am y tro.
‘Dysgu gwersi’
Diolchodd Angela Burns i’r gwasanaethau brys a gweithwyr Chevron “am weithredu mor gyflym er mwyn sicrhau fod y ffrwydrad wedi ei ddiffodd mor gyflym â phosib”.
“Yn amlwg does dim esboniad eto am beth achosodd y ddamwain erchyll yma ac rydw i wedi teimlo’n anghyffyrddus iawn ynglŷn â’r sïon a dyfalu sydd o gwmpas,” meddai.
“Rydw i’n croesawu ymchwiliad Chevron ac yn gwybod y bydd yr heddlu, yr asiantaethau iechyd a diogelwch a’r amgylchedd, a’r heddlu hefyd yn ymchwilio.
“Y peth pwysicaf yw ein bod ni’n gwybod yn union beth ddigwyddodd, yn dysgu o hynny ac yn rhoi unrhyw wersi ar waith.
“Rydyn ni yn falch o’n gweithlu medrus a’r cwbl y mae Chevron wedi ei gyfrannu at yr economi lleol dros y blynyddoedd.
“Mae’n bosib gwneid hynny ond ar yr un pryd galw am gynnal ymchwiliad trwyadl i beth ddigwyddodd.”
Chevron – y cefndir
Purfa Chevron yw un o’r rhai mwya’ yng ngorllewin Ewrop ac mae tua 1,400 o weithwyr yno.
Pan oedd yn nwylo cwmni Texaco, fe gafwyd tân mawr yno yn 1994.
Mae’r cwmni Americanaidd, Valero, wedi cytuno i brynu’r burfa a garejus chevron yn yr Unol Daleithiau ac Iwerddon am gyfanswm o fwy na £1 biliwn.