Andrew Jenkins (Llun - Heddlu Dyfed Powys)
Fe all gymryd wythnosau cyn y bydd yr heddlu wedi gallu gorffen y broses o adnabod ffurfiol yn ffrwydrad purfa Chevron.
Er bod enwau’r pedwar corff wedi eu cyhoeddi, mae’n rhaid i’r heddlu hefyd allu adnabod pob un cyn y bydd cwest.
Oherwydd natur y ffrwydrad ym mhurfa Chevron ym Mhenfro, fe fydd hynny’n waith araf, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Denis Rileu (Heddlu Dyfed Powys)
Fe fydd y pedwar yn cael eu cofio mewn gwasanaethau yn yr ardal heddiw wrth i ffrinidiau a theuluoedd dalu teyrngedau iddyn nhw.
Roedd un, Dennis Riley, 52, newydd fod yn dathlu dod yn dad-cu am yr ail dro tua saith wythnos yn ôl.
Mae pumed dyn yn parhau’n ddifrifol wael yn yr ysbyty ond mae ei deulu wedi gofyn i’r heddlu beidio â chyhoeddi ei enw am y tro.
Julie Jones (Heddlu Dyfed Powys)