Purfa Chevron ym Mhenfro (Colin Bell CCA 2.0)
Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai pobol leol oedd y pedwar a gafodd eu lladd yn y ffrwydrad ym mhurfa Chevron ym Mhenfro.

Mae pumed dyn yn parhau’n ddifrifol wael ond yn sefydlog yn yr ysbyty ar ôl y ffrwydrad a’r tân yn gynnar nos Iau.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys hefyd mai menyw oedd un o’r meirwon ac mae ei henw wedi cael ei gyhoeddi’n lleol – roedd Julie Jones yn swyddog tân yn y gwaith.

Roedd plismyn wedi dechrau’r broses o dynnu’r cyrff o weddillion y tanc lle’r oedd y ffrwydrad ac roedd patholegydd yno gyda nhw.

Maen nhw hefyd yn ymchwilio i achos y ffrwydrad.