Mae Abertawe wedi galw ar gefnogwyr y clwb sy’n awyddus i brynu tocynnau tymor i beidio teithio i’r Stadiwm Liberty heddiw oherwydd y niferoedd sydd eisoes yn ciwio yno. 

 Mae’r Elyrch eisoes wedi gwerthu 14,000 o docynnau tymor, ac maen nhw wrthi’n gwerthu’r 2,000 arall y bore yma – sef yr olaf o’r tocynnau tymor. 

 Roedd cefnogwyr wedi dechrau ciwio dros nos er mwyn ceisio cael eu dwylo ar docynnau tymor ar gyfer ymgyrch gyntaf Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

 Ond mae’r ciw wedi ymestyn ar hyd y Stand Ddeheuol a ddwywaith hyd y Stand Ddwyreiniol yn Stadiwm y Liberty. 

Mae stiwardiaid wedi gorfod torri maint y ciw ac fe fyddan nhw’n atal unrhyw bobl erall rhag ymuno.