Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru’n gofyn am gymorth gan dystion i ddamwain ffordd pan laddwyd dyn 69 oed o’r Rhondda ar Hewl Blaenau’r Cymoedd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad fore ddoe ar yr A465 rhwng Hirwaun a Merthyr, yn agos at gylchfan Baverstocks.

Mae’n ymddangos bod beic modur Honda coch a char Vauxhal Zafira wedi mynd yn erbyn ei gilydd ac fe gafodd gyrrwr y beic modur ei ladd ar unwaith.

Roedd y ffordd ynghau am tua pump awr wrth i’r heddlu ymchwilio a chlirio’r cerbydau oddi yno.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i siarad gyda gyrwyr cerbydau a oedd yn y cyffiniau, gan gynnwys cerbyd 4×4, Mercedes Sprinter gwyn a ‘tipper’ masnachol.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu yng Ngwaelod y Garth ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.