Margaret Thomas
Mae cyngor meddygol wedi penderfynu atal nyrs o’i gwaith dros dro ar ôl iddi roi dos gormodol o inswlin i glaf diabetig fu farw yn ddiweddarach.

Ond penderfynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth na fydd rhaid i Joanne Elizabeth Evans golli ei lle ar y gofrestr broffesiynol yn dilyn marwolaeth Margaret Thomas.

Fe fu farw’r ddynes 85 oed chwe awr ar ôl cael y pigiad gan Joanne Elizabeth Evans o Ymddiriedolaeth Gwent y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Heddiw cafodd Joanne Elizabeth Evans ei gwahardd am flwyddyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Roedd wedi rhoi 3.6ml o inswlin Lantus (tua 360 uned) i Margaret Thomas yn hytrach na’r ddos gywir, sef 36 uned.

Methodd roi gwybod i feddyg teulu neu nyrs arall ar ôl gwneud hynny.

Penderfynodd Cadeirydd y cyngor, John Matharu, bod amgylchiadau marwolaeth Margaret Thomas yn lleihau difrifoldeb y camgymeriad.

“Mae’r panel yn pryderu ynglŷn â’i chymhwysedd wrth weinyddu cyffuriau, yn ogystal ag ymdopi â phwysau,” meddai.

“Serch hynny mae’r panel wedi ystyried fod hwn yn un digwyddiad ar ei ben ei hun ac nad oedd yn fwriadol.”

Y cefndir

Ar 2 Mehefin, 2007, roedd Joanne Elizabeth Evans wedi mynd i weld Margaret Thomas ar ôl iddi lewygu ar stepen drws y ffrynt ei chartref ym Mhontnewydd, Pont-y-pŵl.

Clywodd  y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ei bod hi wedi ceisio rhoi dau bigiad inswlin i’w chlaf ond fod y ddau wedi mynd yn sownd.

Yna fe aeth hi i nôl chwistrell arall o’i char, oedd yn mesur mewn ml yn hytrach nag unedau.

Dywedodd Joanne Elizabeth Evans ei bod hi wedi gwneud camgymeriad a rhoi 3.6ml – tua 360 uned – i Margaret Thomas yn hytrach na 36 uned.

Clywodd y cyngor fod Joanne Elizabeth Evans yn nyrs “ofalgar iawn” a oedd wedi ei chael hi’n anodd ymdopi â’i gwaith am mai hi oedd yr unig nyrs yn yr ardal.