Llyr Gwyn Lewis
Llyr Gwyn Lewis sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyma’r  ail waith yn olynol iddo ennill y gadair, ar ôl ennill yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion y llynedd.

“Rwyf wedi cystadlu droeon o’r blaen yng nghystadlaethau’r Urdd, a dyma’r ail dro i mi ennill prif wobr ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Llanerchaeron y llynedd,” meddai.

“Mi fydd yn anodd curo profiadau’r diwrnod hwnnw ond gobeithio y bydd fy nerfau fymryn yn dawelach y tro hwn!”

Ac yntua’n wreiddiol o Gaernarfon mae Llyr bellach yn byw yng Nghaerdydd yn ei flwyddyn gyntaf o astudio ar gyfer doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats.

Cafodd ei addysg yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, cyn astudio am radd yn y Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd a gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen.

‘Cerddi ardderchog’

Emyr Lewis a Mererid Hopwood oedd yn beirniadu heddiw, a thasg y beirdd oedd ysgrifennu cerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Fflam’.

“Yn ogystal â dawn, mae disgyblaeth gan y bardd yma. Nid yw’n gwastraffu geiriau, ac nid oes ôl straen na brys ar y casgliad,” meddai’r beirniaid.

“Mae’n bleser mawr i ni’n dau gael cadeirio bardd mor addawol. Mi fydd pobl yn mwynhau darllen a gwrando’r cerddi ardderchog hyn.”

Guto Dafydd o Arfon ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a Sion Pennar o Eifionydd yn drydydd.