Maes Eisteddfod yr Urdd
Mae tiwniwr pianos wedi galw am godi adeilad pwrpasol er mwyn caniatáu i gystadleuwyr ymarfer ar faes yr Urdd.

Dywedodd Gerallt Lewis o Lanon, tiwniwr piano gyda chwmni Coach House Pianos, Abertawe, y dylai cystadleuwyr fedru bwcio o flaen llaw i gael defnyddio adeilad i ymarfer ynddo ar y maes.

“Mae’n rhywbeth adeiladol i’r trefnwyr ei ystyried ar gyfer y dyfodol,” meddai Gerallt Lewis.

Dywedodd fod llawer o’r cystadleuwyr a phartïon wedi gorfod ymarfer ar bianos y cwmni ym mynedfa’r eisteddfod.

Hunllef y tiwnwyr

Roedd wedi bod yn wythnos gymysglyd i’r tiwniwr pianos, meddai, yn bennaf oherwydd y tywydd.

“Ddechrau’r wythnos roedd hi’n wlyb iawn ac roedd yna lawer iawn o leithder yn yr awyr ac mae hynny’n hunllef i bob tiwnwyr piano,” meddai.

“Ond, mae pethau wedi dechrau gwella nawr a ry’n ni’n dechrau dod dros y problemau o ambell i nodyn yn sticio fan hyn a fan draw. Dyna beth yw steddfod.

Gwerthiant

Dywedodd nad oedden nhw wedi cael cymaint o lwyddiant wrth werthu pianos yn yr Eisteddfod eleni, o ganlyniad i’r argyfwng ariannol.

“Doedden ni ddim wedi disgwyl gwerthu llawer,” meddai. “Y flwyddyn ddiwethaf, ro’n i gartref [yng Ngheredigion] ac wedi leinio fy nghwsmeriaid i fyny. Fe gawson ni wythnos lewyrchus iawn, a gwerthu tua 15 o bianos.

“Yn Eisteddfod yr Urdd Caerfyrddin, fe werthon ni dros tua 32 o bianos,” meddai cyn dweud fod chwech wedi dangos diddordeb yr wythnos hon a’i fod wedi gwerthu pedwar. “Gobeithio y bydd e lan i tua wyth neu naw erbyn diwedd yr wythnos.” meddai.

Eryri

Dywedodd Gerallt Lewis na fydd y cwmni’n teitjhio i fyny i Eryri y flwyddyn nesaf rhag iddyn nhw ddamsgynar draed gwerthwyr pianos eraill.

“Mae Siop Eifionydd lan lan yng Nghaernarfon ac dw i’n teimlo’n gryf bod angen rhoi chwarae teg i bawb,” meddai.

“Dw i’n dymuno’n dda iddyn nhw y flwyddyn nesaf.”